Ian Thomas (Prifysgol Caerdydd) fydd yn cyflwyno’r seminar amser cinio ar-lein hon.
Yn aml o fewn disgyrsiau academaidd, polisi a’r cyfryngau, ystyrir digartrefedd yn gyfystyr â chysgu ar y stryd. Yn y seminar hon, byddaf yn ceisio herio’r gynrychiolaeth hon drwy gyflwyno teipoleg sy’n cydnabod y gwahanol ffurfiau y gall digartrefedd eu cymryd, a’r ffaith bod pobl weithiau’n symud rhwng y ffurfiau hyn dros amser. Cafodd dadansoddiad eilaidd o ddata arolwg a ddaeth yn sgîl astudiaeth o bobl ddigartref sengl ym Mhrydain Fawr ei gynnal. Roedd y deipoleg ei hun yn seiliedig ar glystyru ynghyd 9 sefyllfa wahanol lle bu’r unigolion hyn yn byw mewn ‘llety dros dro’, y gwnaethon nhw eu profi mewn oedolaeth. At ei gilydd, mae’r sefyllfaoedd hyn o lety dros dro yn cwmpasu digartrefedd yn ei ystyr ehangaf, gan amrywio o ddiffyg llety yn gyfan gwbl (cysgu ar y stryd) i’r bobl hynny sy’n byw mewn trefniadau tai ‘cudd’, gan aros dros dro gydag aelodau teulu neu ffrindiau (syrffio soffa). Mae’r 4 clwstwr wedi’u disgrifio yn ôl y math o ddigartrefedd a nodweddion yr unigolion ym mhob clwstwr, gan gynnwys profiadau o fod dan anfantais ddifrifol, e.e., dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol. Ynghyd ag ychwanegu cynildeb at ein dealltwriaeth o ddigartrefedd—hynny yw, ei bod yn fwy cymhleth na chysgu ar y stryd—mae’r deipoleg yn cynnig tystiolaeth (feintiol) newydd o’r ddeinameg sydd ynghlwm wrth ddigartrefedd. O dipyn i beth, mae’r canfyddiadau hefyd yn awgrymu bod mathau o ddigartrefedd yn cael eu llywio’n rhannol gan yr anfanteision y mae pobl yn eu hwynebu, ond hefyd materion o ran rhywedd a chenedligrwydd.
Os hoffech chi gael gwahoddiad i’r seminar hon, anfonwch e-bost at WISERD.events@caerdydd.ac.uk