Cyflwynwyd gan Athro Katrina Pritchard a Dr Helen C Williams

Mae’r sesiwn hon yn darparu cyflwyniad i ddulliau ansoddol uwch a dau ‘bwnc rhagflas’ sy’n trafod dulliau materol a gweledol. P’un a yw eich cyd-destun yn academaidd neu’n seiliedig ar ymarfer, mae’n bur debyg y byddwch yn ymwybodol bod ystod a chwmpas dylunio ymchwil ansoddol wedi datblygu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod y dull traddodiadol o amlygu themâu cyfweliad yn boblogaidd o hyd, rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o fynd i’r afael â phroblemau ymchwil drwy ymgysylltu â mathau o ddata ansoddol y tu hwnt i ddadansoddi testun a modd sy’n defnyddio’r cyfoeth o ymchwiliad ar draws y gwyddorau cymdeithasol.

Yn gyntaf oll, bydd y sesiwn hon yn cynnig map o ymchwil ansoddol uwch, gan esbonio datblygiadau ar draws dimensiynau dulliau data, casglu a phrosesau dadansoddol. Byddwn yn tynnu sylw yn arbennig at yr heriau a wynebir wrth deithio ar hyd y map hwn mewn perthynas â meysydd megis moeseg a’r ystyriaethau ymarferol i bawb sy’n gysylltiedig â hyn. Byddwn wedyn yn darparu dau bwnc rhagflas i gyflwyno’r rhai sy’n cymryd rhan i ddulliau materol a gweledol, gan dynnu’n uniongyrchol ar ein profiad ymchwil ein hunain. Bydd pob pwnc rhagflas yn rhoi enghreifftiau go iawn o brosesau casglu a dadansoddi data. Byddwn ni hefyd yn rhannu ein profiadau o weithio gyda rhanddeiliaid ac o gyhoeddi ymchwil ansoddol uwch.

Cynhelir y sesiwn dwy awr hon ar-lein ar zoom.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260