Cyflwynwyd gan Karen Lumsden

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad manwl i gynnal cyfweliadau ansoddol ar-lein yn llwyddiannus. Yn draddodiadol, mae cyfweliadau ar-lein wedi tueddu i gael eu hystyried yn israddol i rai wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, gall cyfweliadau ansoddol ar-lein gynnig ffordd werthfawr i ni gynnal ymchwil gymdeithasol gydag ystod o grwpiau amrywiol trwy amrywiol dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu mewn ffyrdd cydamserol ac anghydamserol.

Mae’r cwrs yn ymdrin ag egwyddorion a manteision cyfweliadau ansoddol ar-lein, a’r heriau y mae cyfathrebu ar-lein yn eu hachosi i ymchwilwyr wrth ryngweithio â chyfranogwyr o bell ac yn rhithwir. Rydym yn ymdrin â sut i ddylunio, cynnal a hwyluso cyfweliad cydamserol ar-lein drwy ddefnyddio technolegau cynadledda clyweledol fel Zoom. Rhoddir arweiniad i gyfranogwyr a chyfle i dreialu cynnal cyfweliad ansoddol ar-lein gyda chymheiriaid. Rydym hefyd yn trafod strategaethau ar gyfer gwella
cyfranogiad mewn cyfweliadau ar-lein ac ystyriaethau moesegol, yn enwedig wrth gynnal ymchwil ar-lein i bynciau sensitif neu gyda chyfranogwyr agored i niwed.

Bydd y cwrs hwn o fudd i ymchwilwyr sy’n newydd i ddulliau ymchwil ansoddol a’r rhai sydd eisoes â dealltwriaeth sylfaenol o ddulliau ymchwil ansoddol ond sy’n newydd i gynnal cyfweliadau ansoddol mewn lleoliadau ar-lein.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260