Cyflwynwyd gan Marine Furet

Y Sefydliad Materion Cymreig, neu’r IWA, yw prif felin drafod annibynnol Cymru gyda hanes cyfoethog o ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a llunio dadleuon sy’n hanfodol i ddyfodol Cymru. Yn ystod 35 mlynedd ein bodolaeth rydym wedi cronni hanes o newid deddfwriaeth. Yn y sesiwn hon, byddwn yn rhannu awgrymiadau i ymchwilwyr sy’n ystyried mynd at sefydliadau fel yr IWA i droi eu hymchwil yn bolisi effeithiol.

Bwriedir y seminar hwn ar gyfer ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn ystyried cyfleoedd i ddod â’u hymchwil ‘allan o’r twr ifori’ a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gydweithio â’r trydydd sector. Bydd yn cynnwys cyflwyniad ac yn cael ei ddilyn gan sesiwn holi ac ateb. Bydd y cyflwyniad yn ymdrin â:

1. Y Sefydliad Materion Cymreig: ein hanes a’n prosiectau

2. Deall Lleoedd Cymru: Prosiect cydweithredol rhwng y byd academaidd a’r trydydd sector

3. Yr Agenda Gymreig: Llwyfan unigryw i ymchwilwyr cymdeithasol

4. Dylanwadu ar benderfynwyr a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd

Ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom