Cyflwynwyd gan Dr Sofia Vougioukalou

Er bod ymchwil am les, yn anochel, yn ymwneud ag agendâu iechyd ar lefel cenedlaethol/DU/rhyngwladol, nod y sesiwn yw edrych ar sut mae’n ymwneud â mwy na materion iechyd yn unig, yn enwedig yng nghyd-destun termau meddygol penodol. Gan ddefnyddio ymarfer presgripsiynu cymdeithasol yn fan cychwyn ar gyfer yr archwiliad hwn, y nod yw datgelu sut y gall y ffordd yr ydym yn meddwl am les gynnwys agenda llawer ehangach, sy’n ymwneud, er enghraifft, â’r byd cymdeithaso rydym yn byw ynddo a’r ffyrdd rydym yn ymgysylltu ag eraill, gweithgareddau creadigol ac addysgol yr ydym yn ymwneud â hwy, materion sy’n ymwneud â’n hamgylchedd ehangach, a’n mynediad ato, yn ogystal â materion diwylliannol sy’n ymwneud, er enghraifft, â sut y caiff ieithoedd a hunaniaethau lleiafrifol eu diogelu a’u cynrychioli. Bydd y digwyddiad, felly, yn mynd i’r afael â’r cwestiwn: beth yw nodweddion seicogymdeithasol iechyd a lles, gan ddefnyddio enghreifftiau o bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260