Ein her yw gwneud i bethau weithio pan nad yw’r farchnad a’r wladwriaeth yn darparu’r elfennau sylfaenol er mwyn sicrhau amodau byw digonol. Gyda’r “argyfwng costau byw” nid yw marchnadoedd yn darparu hanfodion fel ynni a bwyd yn ddibynadwy ac yn fforddiadwy ar gyfer aelwydydd incwm isel a chanolig. Mae llywodraethau’n ei chael hi’n anodd rheoli argyfyngau tymor byr ac osgoi’r costau tymor hir sy’n gysylltiedig ag adnewyddu systemau. A hynny tra mae mwy a mwy o bwysau ar hawliau’r “wladwriaeth les” drwy yswiriant cymdeithasol, trosglwyddo incwm a gwasanaethau sy’n derbyn cymhorthdal.
Y cwestiwn sylfaenol yw, a yw gwahanol weithredwyr yn gallu mynd i’r afael â’r problemau hyn drwy arloesi cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar yr amcanion o wella aelwydydd i sicrhau bod yr amodau byw yn ddigonol, a datblygu stoc o gwmnïau medrus o fewn terfynau’r blaned. Mae ailddefnyddio systemau darpariaeth mewn modd addasol yn anodd pan fydd systemau o’r fath yn gwrthsefyll newid, pan nad yw arloesedd yn arwain at lwyddiant cynaliadwy, a phan na fydd cyflwyno polisïau o’r brig i lawr yn gweithio. Felly mae’r gynhadledd yn dod ag ymchwilwyr ac ymarferwyr ynghyd mewn sesiynau thematig sy’n archwilio materion sylfaenol ac ymyriadau o Gymru, gweddill y DU ac ar hyd a lled Ewrop. Byddwn yn cynnal sesiynau ar y canlynol:
- Ailadeiladu systemau sylfaenol
- Codi tâl am gyfleustodau yn atchweliadol
- Lleoleiddio cadwyni cyflenwi
- Datblygiad economaidd cymunedol
- Incwm, lle ac amser
- Dod â gofal i faes gofal iechyd
- Darparu prydau ysgol am ddim
- Datblygu cyfleusterau a seilwaith cymunedol