Mewn gweithdy dwy awr, bydd Annette Lareau yn cwrdd ag ysgolheigion iau, gan gynnwys myfyrwyr PhD, myfyrwyr ôl-ddoethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Dylai pob cyfranogwr fod yn cynllunio’r gwaith o gasglu data gan ddefnyddio dulliau ansoddol fel cyfweliadau manwl neu sylwadaeth gan gyfranogwyr, neu fod wrthi’n casglu data.
10 diwrnod cyn y gweithdy, gofynnir i bob cyfranogwr rannu memo, rhwng 500 a 750 o eiriau, yn disgrifio eu cwestiwn ymchwil (yn fras), y llenyddiaeth y maent yn ei defnyddio, eu dyluniad ymchwil, ac yn y blaen. Yn y memo, dylai’r cyfranogwr nodi cwestiwn, her neu bryder y mae’n ei wynebu yn ei astudiaeth. Dylid gwneud y memos yn gwbl gyfrinachol fel nad ydynt yn datgelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol. Bydd Annette Lareau, a phawb arall sy’n cymryd rhan yn y gweithdy, yn darllen y memos cyn y gweithdy.
Yn y gweithdy, bydd Annette Lareau yn siarad â phob un o’r cyfranogwyr, yn gofyn cwestiynau ychwanegol, ac yn myfyrio ar yr heriau – gan awgrymu llwybrau amgen ar gyfer mynd i’r afael â’r pryderon, o bosibl. Mae’r rhan fwyaf o’r materion y mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y seminar yn eu hwynebu yn debygol o godi cwestiynau a phryderon cyffredin ynglŷn â chynnal ymchwil ansoddol yn y byd go iawn. O ganlyniad, mae’n debygol y bydd o ddiddordeb i gyfranogwyr ymchwil weld profiadau pobl eraill sydd yn y seminarau.
Bydd Annette Lareau yn dechrau’r seminar gyda sylwadau rhagarweiniol byr. Yn ddelfrydol, bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn y gweithdy wedi darllen ei llyfr, Listening to People: A Practical Guide to Interviewing, Participant Observation, Data Analysis, and Writing It All Up, cyn y seminar.
Please note, places are limited and will be offered to WISERD researchers in the first instance, before being made more widely available. If you are interested in taking part, please email WISERD.events@cardiff.ac.uk or telephone 029 2087 5260 and we would be delighted to add you to our waiting list.