Cyflwynir gan Rhys Davies.

Nid yw olrhain cyrchfannau a deilliannau disgyblion Blwyddyn 11 ar ôl cwblhau Cyfnod Allweddol 4 yn syml.  Cesglir y data sy’n gysylltiedig â’r rheiny sy’n mynd i’r chweched dosbarth mewn ysgolion a’r rheiny sy’n mynd i golegau Addysg Bellach (gan gynnwys y rheiny sydd wedi’u cofrestru ar gyfer dysgu sy’n seiliedig ar waith) ar wahân.  Mae’r data yn cael ei gadw ar wahân yn nifer o’r ystadegau swyddogol sy’n deillio o’r setiau data hyn.  Mae’r cyflwyniad hwn yn rhoi trosolwg o gronfa ddata integredig sy’n ceisio rhoi darlun cynhwysfawr o’r cyfnod pontio i addysg ôl-orfodol yng Nghymru.  Mae hyn yn golygu y gallwn ni ystyried pa mor wahanol yw llwybrau addysgol grwpiau gwahanol o ddisgyblion ar ôl iddyn nhw gwblhau addysg orfodol.

 

I ymuno â ni, ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom