Cyflwynwyd gan Asmaa A A Alfar 

Mae mater ffoaduriaid yn her gynyddol yng ngolwg y gymuned ryngwladol. Mae’r Cenhedloedd Unedig a’r cyrff anllywodraethol rhyngwladol yn wynebu tasgau trwm na ellir eu cyflawni’n hawdd. Nod yr ymchwil gymdeithasol-wleidyddol hon yw rhoi sylw i’r ffoaduriaid Palesteinaidd yn y DU sydd wedi’u dadleoli ddwywaith, gan roi sylw hefyd i’w bregusrwydd, a’u hintegreiddio. Dechreuodd argyfwng ffoaduriaid Palesteinaidd gyda Datganiad Balfour ym 1917 a’r glanhau ethnig a ddioddefodd y Palesteiniaid (Nakba) yn 1948 ac mae’r argyfwng yn parhau i dyfu. Mae diffyg llenyddiaeth (yn enwedig yn y gorllewin) yn rhoi cryn bwysigrwydd i’r astudiaeth hon.

Gan ei bod yn ffoadur Palesteinaidd sydd wedi’i dadleoli ddwywaith ei hun ac yn weithiwr achos ar gyfer ffoaduriaid mewn sawl corff anllywodraethol (gan gynnwys Y Groes Goch), mae’r ymchwilydd yn ceisio cydbwysedd oddi mewn iddi ei hun ac yn ceisio cynhyrchu ymchwil feirniadol, sydd hefyd yn ystyried ei myfyrdodau personol. A allai’r ffaith bod y gorllewin wedi coloneiddio’r Dwyrain Canol (yn benodol Mandad Palesteina Brydeinig) gael ei gysylltu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag argyfwng y ffoaduriaid yn y DU? Mae’r ymchwil yn archwilio ymhellach amrywiol agweddau ar bolisïau integreiddio ffoaduriaid yn y DU. Fe wnaeth yr ymchwilydd gyfweld â 40 o Balesteiniaid sydd wedi’u dadleoli ddwywaith sy’n byw yn y DU a chymharu eu profiadau a’u straeon i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r mater ac o’r ateb.

Ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom