Drwy sôn am arbrawf cymdeithasol ar gyfer ymchwilwyr lles, nod y sesiwn yw hwyluso ac annog sgyrsiau rhwng y rhai sydd â diddordeb mewn ymchwil lles – hynny yw, cydnabod pwysigrwydd trefnu a hwyluso sgyrsiau (ar-lein ac wyneb-yn-wyneb) er mwyn sicrhau y gall pobl gael sgyrsiau cynhyrchiol ac ystyrlon. Bydd y sesiwn hon yn dechrau drwy gydnabod, er bod sgyrsiau ar-lein yn ddefnyddiol ac yn fuddiol am amrywiaeth o resymau weithiau, gellir colli agweddau pwysig ar sgyrsiau wyneb-yn-wyneb yn ystod digwyddiadau ar-lein. O ystyried hyn, bydd cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb yn cael eu trefnu rhwng pobl cyn y sesiwn, mewn parau neu grwpiau bach, a bydd gofyn iddynt sôn am eu profiadau yn y digwyddiad ar-lein. Nod cyffredinol gwneud hyn fyddai ceisio deall yn well sut mae modd hwyluso sgyrsiau o ansawdd da ynghylch ein hymchwil a phwnc lles, boed hynny ar-lein neu wyneb-yn-wyneb.