Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i helpu i brofi gwefan newydd Deall Lleoedd Cymru. Mae’r wefan yn fwriadol anorffenedig, felly mae diddordeb ganddon ni hefyd mewn casglu adborth o ran beth gellid ei ychwanegu neu ei wella yn y dyfodol.

Rhagor am Deall Lleoedd Cymru

Rydyn ni eisiau i Deall Lleoedd Cymru fod yn bwynt cyntaf er mwyn cael gwybodaeth ystadegol am drefi, pentrefi a chymunedau yng Nghymru. Bydd y wefan yn cyflwyno gwybodaeth am bob lle yng Nghymru sydd â 1,000 o drigolion neu fwy.

Bydd Deall Lleoedd Cymru yn wahanol i byrth data eraill, gan na fydd angen i bobl fod yn arbenigwyr i’w ddefnyddio. Yn ogystal, bydd y wefan yn cyflwyno data ar lefel trefi a chymunedau, yn hytrach nag awdurdodau lleol. Bydd canolbwyntio ar archwilio’r hyn sy’n debyg, yn annhebyg a rhyng-berthnasau rhwng lleoedd yn helpu defnyddwyr i ddehongli a rhyngweithio gyda’r data hwn mewn ffyrdd newydd a deinamig. Rydyn ni’n arbennig o falch y bydd y wefan yn cynnwys mapiau o deithiau rhwng lleoedd, teipoleg addysgiadol o leoedd Cymru, ac asesiadau o ryngddibyniaeth lleoedd Cymru.

Mae gwefan Deall Lleoedd Cymru yn cael ei datblygu gan staff Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn cydlynu gwaith cyfathrebu ac ymgynghori’r prosiect.