Mae WISERD yn eich gwahodd i Seminar Amser Cinio diweddaraf WISERD ddydd Mercher 22 Hydref 12pm, a gyflwynir gan Dr Yongchao Jing (ADR Cymru). Gallwch ddod o hyd i‘r ddolen i gyfarfod Microsoft Teams trwy‘r botwm digwyddiad ar waelod y dudalen.
When Equity Meets Merit: Sut mae sefydliadau bargeinio torfol yn llunio deilliannau cyflog ar draws lefelau sgiliau
Crynodeb:
Mewn oes pan fydd bargeinio torfol ar drai neu yn ei unfan, mae’r papur hwn yn ystyried a yw sefydliadau bargeinio torfol—sef dwysedd undebau llafur, graddau bargeinio torfol, canoli proses bargeinio a chydlynu cyflogau—yn cael effaith ar gyflog ar sail sgiliau a sut mae’r effeithiau hyn yn amlygu eu hunain yn achos gweithwyr â sgiliau isel ac uchel. Gan ddefnyddio atchweliad aml-lefel a data’r Rhaglen Asesu Cymwyseddau Oedolion yn Rhyngwladol (PIAAC) o 29 o wledydd y Sefydliad er Cydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD), mae’r astudiaeth yn amcangyfrif effeithiau sefydliadau bargeinio torfol ar gyflog ar sail sgiliau gwybyddol a sgiliau sy’n benodol i’r swydd. Mae’r canlyniadau’n dangos bod dwysedd undebau, graddau bargeinio torfol a chydlynu cyflogaeth oll yn gysylltiedig â chyflog is ar sail sgiliau ond drwy batrymau dosraniadol gwahanol. Pan fydd dwysedd undebau yn gysylltiedig â chyflogau sy’n anghymesur o uwch i weithwyr â sgiliau isel, tra bod bargeinio torfol ehangach yn gysylltiedig â chyflogau sylweddol is i weithwyr medrus iawn.
Mae mwy o gydlynu cyflogau’n gysylltiedig â llai o gyflog ar sail sgiliau gwybyddol, ac adlewyrchir hyn mewn cyflogau uwch i weithwyr â sgiliau isel a chyflogau is i weithwyr medrus iawn, gan adael cyflogau ar sail sgiliau sy’n benodol i’r swydd heb fawr o effaith. Mewn cyferbyniad, nid oes unrhyw dystiolaeth bod canoli’r broses o fargeinio yn cymedroli cyflogau ar sail sgiliau. Yn gyffredinol, mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod agweddau gwahanol ar sefydliadau bargeinio torfol yn rhyngweithio â sgiliau unigol mewn ffyrdd gwahanol i lunio’r broses o ddosrannu cyflog.