Safbwyntiau ar haeniad dinesig ac atgyweirio sifil

Ian Rees Jones

Tua chwarter canrif yn ôl, dadleuodd David Lockwood fod cydlyniant cymdeithasol yn annatod o gysylltiedig ag undod sefydliadol dinasyddiaeth, marchnad a biwrocratiaeth.  Cynigiodd e fodel o Haeniad Dinesig sy’n cyfeirio at wrthod a rhoi hawliau yn systemig. Mae hyn yn cymryd sawl ffurf ac yn cysylltu gwaharddiadau a chynwysiadau ag adeileddau anffurfiol o statws. Mae’r ddarlith hon yn ystyried sut gallai’r fframwaith hwn gael ei fabwysiadu a’i estyn i lywio astudiaethau o sut mae’r gymdeithas sifil yn cael ei heffeithio gan ffurfiau o haeniad dinesig, yn ymateb iddo ac yn cyfrannu ato, a’r potensial sydd gan sefydliadau’r gymdeithas sifil i hyrwyddo atgyweirio sifil.

Ebost wiserd.events@cardiff.ac.uk