Arweinir y cwrs undydd hwn gan Dr Jennifer Hampton o Brifysgol Caerdydd, a bydd y cyfranogwyr yn cael:

Dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol methodoleg Q, ynghyd â manteision a chyfyngiadau’r dull
Dealltwriaeth o gynllunio a dethol pynciau, deunyddiau a samplau cyfranogwyr priodol ar gyfer astudiaeth Q
Profiad ymarferol o ymarfer didoli Q
Dealltwriaeth o’r technegau dadansoddi a ddefnyddir ar gyfer data didoli Q a phrofiad o ddadansoddi data o’r fath gyda rhaglen meddalwedd arbenigol
Profiad o ddehongli canlyniadau dadansoddiad didoli Q, yn integreiddio data ansoddol a meintiol
Erbyn diwedd y dydd, dylai fod gan y cyfranogwyr yr wybodaeth a’r gallu i ddechrau cynllunio, gweinyddu, dadansoddi a dehongli eu prosiectau dull Q eu hunain.

Anelir y digwyddiad at ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn ymchwilio opsiwn amgen i gynlluniau arolygon traddodiadol, sy’n gallu dal natur amrywiol a chydsyniol ystod o safbwyntiau unigol gwahanol ar bwnc penodol, mewn modd systematig a deongliadol. Rhennir y dydd yn ddau weithdy:

Gweithdy Q I: Cyflwyniad i fethodoleg Q.

Crynodeb: Mae methodoleg Q yn cynnig offeryn ymchwil sy’n dod yn gynyddol boblogaidd mewn ystod o ddisgyblaethau ymchwil a chymwysedig. Gofynnir i’r cyfranogwyr ddidoli set o ddatganiadau am bwnc penodol, ar sail eu credoau a’u safbwyntiau eu hunain. Mae’r dull yn caniatáu i safbwyntiau unigol gael eu mynegi a’u harchwilio. O’i defnyddio gyda grŵp o unigolion, bydd methodoleg Q yn datgelu safbwyntiau cyffredin ac amrywiol.

Bydd y gweithdy’n gyflwyniad ymarferol i fethodoleg Q. Byddwn yn ystyried pa fathau o broblemau ymchwil sy’n addas ar gyfer Q, ystyriaethau methodolegol ac ymarferol, yn ogystal â sut i greu’r deunyddiau ar gyfer gweithdrefn ddidoli Q. Bydd cyfle i’r sawl sy’n dod hefyd i gymryd rhan mewn ymarfer didoli Q.

Gweithdy Q II: Cyflwyniad i ddadansoddi Q.

Crynodeb: Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno sut i ddadansoddi astudiaeth dull Q yn ystadegol a’i dehongli. Ceir cyflwyniad sylfaenol i egwyddorion y dadansoddiad, ac yna ceir sesiwn ymarferol. Bydd y sawl sy’n bresennol yn cael eu harwain gam wrth gam i ddadansoddi data a gasglwyd o ymarfer didoli Q. Byddwn yn trafod amrywiol ddulliau ar gyfer dethol y datrysiad mwyaf priodol. Yn dilyn y dadansoddiad, ceir cyfle i ddechrau ar ymarfer i ddehongli’r canlyniadau.

Lefel mynediad gydag ychydig-dim gwybodaeth ystadegol flaenorol yn angenrheidiol. Caiff meddalwedd a data eu darparu yn y gweithdy.