Cyflwynwyd gan Katie Bodinger
Bydd Katie Bodinger, Uwch-swyddog Cyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi treulio mwy na degawd yn gweithio yn y cyfryngau, yn ymuno â ni i drafod sut y gallwch gyfleu eich ymchwil i’r byd ehangach.
Bydd Katie yn mynd â chi drwy’r broses o weithio gyda chydweithwyr ym maes cyfathrebu i gynllunio a phenderfynu’n derfynol ar ddatganiad i’r wasg, gan gynnwys sicrhau ei fod yn cyrraedd y newyddiadurwyr cywir. Bydd hefyd yn esbonio sut y gallech gynnig esboniadau a dadansoddiadau ymatebol i gyfrannu at yr agenda newyddion ehangach, yn cynnig ei dealltwriaeth o’r hyn y mae newyddiadurwyr yn chwilio amdano, yn esbonio pryd yw’r amser gorau i roi cyhoeddusrwydd i ymchwil, yn ogystal â sôn am rai o’r pethau i feddwl amdanynt wrth roi cyfweliadau i’r cyfryngau.
Bydd hefyd ar gael i gynnig cyngor ar brosiectau ymchwil penodol, ac mae’n awyddus i glywed gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd am unrhyw waith a allai elwa o gyhoeddusrwydd yn y dyfodol agos.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.