Thema’r gynhadledd: Ar Drywydd Dyfodol Cynaliadwy

Mae dros ddegawd ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddod i rym. Ystyrir yn eang ei bod yn ddeddfwriaeth sy’n arwain y byd, gan gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant hirdymor cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Yr uchelgais yw creu Cymru sy’n fwy llewyrchus, cydnerth, cyfartal ac yn iachach; cenedl â chymunedau cydlynus, diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy’n ffynnu, ac un sy’n gweithredu’n fyd-eang fel aelod cyfrifol o’r byd.

Mae sawl hollt cymdeithasol, sydd wedi’u dwysáu gan argyfyngau byd-eang diweddar, yn tanlinellu pwysigrwydd yr amcanion llesiant hyn. Ac eto mae galw cynyddol a chyfyngiadau cyllidebol parhaus yn gosod pwysau cynyddol ar y sefydliadau sydd â’r dasg o gyflawni’r amcanion. Yn y cyd-destun hwn ac ar ddechrau cyfnod newydd i Senedd Cymru, mae Cynhadledd Flynyddol WISERD eleni’n dymuno archwilio heriau cyfoes allweddol a nodi’r polisïau a’r arferion sydd eu hangen i gefnogi nodau datblygu economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, yng Nghymru a thu hwnt.

Gwahoddwn gyfraniadau sy’n mynd i’r afael yn feirniadol â’r materion hyn ac sy’n cynnig cipolwg ar sut y gall Cymru – a’r byd ehangach – hyrwyddo llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Gyda ffocws cryf ar lwybrau’r dyfodol, mae hon yn alwad fwriadol eang er mwyn adlewyrchu cymhlethdod a chydgysylltiad llesiant yn y gymdeithas gyfoes. Gan adlewyrchu saith nod llesiant y Ddeddf a’i phwyslais ar ffyrdd gwell o weithio, mae croeso arbennig i gyfraniadau sy’n myfyrio ar y pynciau canlynol:

  1. Llewyrch: cyfranogi a dilyniant mewn addysg a hyfforddiant; gweithgarwch economaidd, cyfranogi yn y farchnad lafur; gwaith teg.
  2. Gwydnwch: trawsnewidiadau cyfiawn; nwyddau amgylcheddol; polisi newid hinsawdd a chyfiawnder hinsawdd; cyfiawnder gofodol.
  3. Cydraddoldeb: dinasyddiaeth; hawliau; haenu dinesig; tlodi; bywioldeb.
  4. Iechyd a Llesiant: iechyd; gofal cymdeithasol; tai a digartrefedd.
  5. Cydlyniant Cymunedol: cymunedau ymyledig; daearyddiaethau anghydraddoldeb; troseddu, cyfiawnder troseddol a chynhwysiant cymdeithasol; hygyrchedd; trafnidiaeth.
  6. Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth: mudo; symudedd; cenedlaetholdeb; hunaniaeth; diwylliant; treftadaeth; cyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.
  7. Cyfrifoldeb Byd-eang: cadwyni cyflenwi; caffael; gwerth cymdeithasol; cyfiawnder cymdeithasol.
  8. Ffyrdd o Weithio: ymchwil gyfranogol a gweithredol; democratiaeth ystyriol; llywodraethu cydweithredol; deialog a llais; gwyddoniaeth dinasyddion; cyd-gynhyrchu; partneriaeth gymdeithasol; tystiolaeth ac effaith.

Eleni gwahoddwn gynigion am gyflwyniadau papur unigol, gweithdai/sesiynau rhyngweithiol, symposia neu bosteri. Mae croeso hefyd i gyfraniadau sy’n berthnasol i thema dyfodol cynaliadwy ond nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr uchod.

Rydym yn arbennig o awyddus i gael cyflwyniadau gan ymchwilwyr ôl-raddedig, PhD ac ar ddechrau eu gyrfa, gyda sesiynau Ymchwilwyr Newydd pwrpasol yn cael eu cynnal mewn cydweithrediad ag Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) a Chymdeithas Ddysgedig Cymru (CDC).

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodebau yw 9am ddydd Llun, 30 Mawrth. Anfonwch eich crynodebau i WISERDAnnualConference@cardiff.ac.uk.

 

Pwyntiau pwysig i’w nodi:

  • Os ydych chi’n teithio i’r gynhadledd, mae digon o opsiynau llety yng nghanol dinas Caerdydd a’r cyffiniau sy’n agos at y Brifysgol. Byddwn yn llunio rhestr, gyda gostyngiadau prifysgol ar gael, ar y wefan.
  • Bydd nifer cyfyngedig o fwrsariaethau teithio a llety ar gael i gyflwynwyr y gynhadledd nad ydynt yn gallu manteisio ar gronfeydd eu sefydliad neu gorff. Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer bwrsariaeth, nodwch hynny ar brofforma’r crynodeb.

Canllawiau cyflwyno:

  • Rhaid defnyddio’r templed profforma ynghlwm ar gyfer cyflwyno crynodebau. Dylid cyflwyno crynodeb pob cynnig neu syniad ar wahân. Anfonwch eich crynodebau i WISERDAnnualConference@cardiff.ac.uk.
  • Gellir cyflwyno cynigion yn Gymraeg neu Saesneg.
  • Caiff yr holl gyflwyniadau eu hadolygu gan Bwyllgor Cynhadledd WISERD a’u hystyried yn ôl eu perthnasedd, y galw, anghenion datblygu proffesiynol ac amseru. Efallai na fydd yn bosibl cynnwys yr holl gynigion.
  • Os cewch eich derbyn yn siaradwr, bydd angen i chi gofrestru’n gynrychiolydd yn y ffordd arferol ac archebu eich lle yn ystod y cyfnod cofrestru cynnar (byddwn ni’n rhoi gwybod pryd fydd y cyfnod yn dechrau).