Adnewyddu sylfaenol: Trawsnewid systemau dibyniaeth yn sgîl COVID-19


A seedling growing

Bu trydedd gynhadledd WISERD am yr economi sylfaenol, a gynhaliwyd ar-lein yn gynharach y mis hwn, yn dod ag ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob rhan o’r DU a’r tu hwnt ynghyd i drafod sut y gellir ailadeiladu, gwella a chynnal yr economi sylfaenol mewn ymateb i heriau newydd a hen sydd wedi’u gwaethygu gan y pandemig.

Dros dri diwrnod, roedd panel arbenigol o siaradwyr a thrafodwyr o bob rhan o’r economi sylfaenol yn rhannu eu mewnwelediadau gwyddonol a’u profiadau ymarferol â’r cynrychiolwyr. Fe wnaethant archwilio sut mae’r economi sylfaenol yn cyfrannu at ‘fywyd da’, materion ymarferol sy’n ymwneud â chyllido a llywodraethu’r economi sylfaenol, a phontio o fewn yr economi sylfaenol, gan gynnwys gwahanol ddulliau a ffyrdd arloesol o wneud pethau.

Pwysleisiodd Hilary Cottam OBE, a rannodd fewnwelediadau cynnar o’i gwaith cyfredol yn ei sesiwn agoriadol, yr angen dybryd i ailwerthuso ein hamser i ofalu a gweithio o fewn ein bywydau beunyddiol. Mae ei llyfr, Radical Help, yn darparu casgliad cyfoethog o astudiaethau achos sydd â chysylltiad agos â’r economi sylfaenol.

Mewn sesiwn gloi gan Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, trodd y ffocws yn benodol at Argyfwng yr Hinsawdd. Roedd y sesiwn yn archwilio sut y gall y mewnwelediadau gwerthfawr a gafwyd yn ystod y gynhadledd helpu i feithrin y math o lywodraethu trawsnewidiol sydd ei angen i yrru adnewyddu sylfaenol a mynd i’r afael â’r argyfwng.

Mae COVID-19 wedi cael effaith ddifrifol ar economïau ledled y byd ac mae cyfnodau clo wedi rhoi pwysau trwm ar amrywiol sectorau sylfaenol, gan gynnwys gofal, addysg a darparu bwyd. Yn ogystal â hynny, mae cyflwyno cynlluniau adfer yr economi a’r tarfu ar gadwyni cyflenwi’r byd wedi sbarduno eto ymdrechion i wrthwynebu mesurau cyni a chreu gwerth lleol.

Mae’r heriau newydd o ganlyniad i hyn yn ychwanegu at argyfyngau cyfredol natur a chyfalafiaeth neo-ryddfrydol megis y newid yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb sy’n gwaethygu a diffyg llywodraethu cymdeithasol. I leddfu’r heriau hyn trwy drawsffurfio cymdeithasol ac ecolegol, mae angen adnewyddu’r economi sylfaenol yn sylweddol a ysgogir gan ffyrdd newydd o feddwl a chydweithredu.

Roedd y gynhadledd hon yn dangos bod yna awydd cryf i alinio ymchwil, arfer cyfredol a llunio polisïau ymhellach er mwyn sicrhau economi wyrddach, fwy gwydn a arweinir gan ofal.

Y casgliad cryfaf a ddaeth i’r amlwg yn sgil trafodaethau oedd y bydd creu partneriaethau, cyfleoedd cydgynhyrchu a chynghreiriau newydd yn seiliedig ar le yn allweddol i weithredu’r newidiadau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer adnewyddu sylfaenol. Yn ogystal, bydd angen sicrhau yr ymgysylltir â’r cyhoedd o ran tarfu sylweddol posibl ar ffyrdd o fyw. Digon yw dweud mai dim ond dechrau’r broses yw deddfwriaeth.

Bydd ymchwil i’r maes pwysig hwn yn parhau trwy lawer o’r prosiectau yng nghanolfan cymdeithas sifil WISERD a ariennir gan ESRC: Haenu Dinesig ac Atgyweirio Sifil a Rhwydwaith Ymchwil Economi Sylfaenol WISERD, ac edrychwn ymlaen at gynnal y gynhadledd nesaf am yr economi sylfaenol yn 2022.

Gallwch weld yr holl negeseuon Trydar am y digwyddiad eleni trwy fynd i Twitter a chwilio am yr hashnod: #adnewyddusylfaenol.

Os nad oeddech chi’n gallu bod yn bresennol, gallwch wylio’r recordiad yma.

Gallwch hefyd ddarllen trawsgrifiad o sesiwn Lee Waters AS.

 


Rhannu