Athro WISERD wedi’i ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru


 

Kevin MorganMae’r Athro Kevin Morgan ymhlith cymrodyr newydd eu hethol eleni i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2010 yn absenoldeb cymdeithas ddysgu genedlaethol yng Nghymru. Ei nodau yw cyfrannu at hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, sy’n cynnwys rhoi cyngor annibynnol ac arbenigol i’r Llywodraeth.

Mae cael eich ethol yn Gymrawd yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau academyddion yn eu meysydd perthnasol. Cydnabyddir y rheini o sectorau’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a gwasanaeth cyhoeddus, gan ddod â 595 o’r ffigurau amlycaf yn y byd academaidd yng Nghymru ynghyd.

Mae’r Athro Kevin Morgan yn rhan o’r tîm yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) sy’n ystyried ‘Cyfundrefnau Dinasyddiaeth Newydd sy’n Dod i’r Amlwg’ – prosiect a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac sy’n rhan o ganolfan cymdeithas sifil newydd WISERD. Y nod yw hyrwyddo agenda newydd radical ar gyfer arloesedd cymdeithasol yn dilyn yr argyfwng ôl-COVID-19.

Mae Kevin Morgan hefyd yn Athro Llywodraethu a Datblygu yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd, ac yn Ddeon Ymgysylltu. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys theori, polisi ac ymarfer systemau arloesedd ar sail lleoedd, cyfundrefnau llywodraethu aml-lefel, llywodraethu arbrofol, systemau bwyd cynaliadwy, a’r economi sylfaenol.

Mae’r Athro Morgan hefyd yn rhan o Rwydwaith Ymchwil Economi Sylfaenol WISERD, sy’n hysbysu Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi sefydliadau lleol i ddatblygu sylfaen dystiolaeth economi sylfaenol yng Nghymru.

Dywedodd Llywydd y Gymdeithas, yr Athro Hywel Thomas, am y derbyniadau newydd:

“Rydw i wrth fy modd yn croesawu ein Cymrodyr newydd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r flwyddyn ddiwethaf ryfeddol hon wedi dangos gwerth ymchwil o’r radd flaenaf. Mae syched am wybodaeth ac arbenigedd ym mhob maes, wrth i ni geisio adfer o heriau’r pandemig. Mae ein Cymrodyr ar y blaen gyda’r wybodaeth a’r arbenigedd hwnnw.”

Roedd yr Athro Kevin Morgan ymhlith y Cymrodyr newydd eraill a dderbyniwyd yn ffurfiol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ar 19 Mai.


Rhannu