Llongyfarchiadau i’r Athro Mitch Langford


Llongyfarchiadau mawr i Gyd-gyfarwyddwr WISERD Mitchel Langford sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y penodiadau Gwobrau Academaidd Uwch diweddaraf

Mae Mitchel Langford wedi derbyn y teitl Athro mewn Dadansoddi Gofodol a Geo-wybodeg ym Mhrifysgol De Cymru. Mae diddordebau ymchwil Mitch yn cynnwys modelu hygyrchedd daearyddol a dadansoddi geo-ofodol ym meysydd gofal iechyd, anghydraddoldeb cymdeithasol a chyfiawnder amgylcheddol; a datblygiadau methodolegol dadansoddi gofodol drwy dechnegau rhyngosod dasymetrig areal.

Mae Athro Cyswllt ac Athro yn deitlau uchel eu bri a’r dynodiadau uchaf a roddir gan y Brifysgol i gydnabod rhagoriaeth ym maes pwnc yr unigolyn.

Yn 2020 penodwyd Mitch yn Gymrawd Academaidd Comisiwn y Senedd (corff corfforaethol Senedd Cymru) i weithio ar “Archwilio patrymau daearyddol yn nhirwedd newidiol darpariaeth gwasanaethau ariannol yng Nghymru”.

Mae wedi ymgymryd â llawer o brosiectau ymgynghorol gydag Asiantaethau Llywodraeth Genedlaethol a Sefydliadau Anllywodraethol ac yn ddiweddar mae wedi creu effaith ym meysydd darpariaeth gofal plant a chartrefi gofal, a mynediad i fannau gwyrdd a chyfleusterau chwaraeon.

Mae’r gweithgareddau presennol yn canolbwyntio ar ddeall yn well yr anghydraddoldebau posibl o ran mynediad at wasanaethau drwy drafnidiaeth gyhoeddus a hyrwyddo dulliau teithio cynaliadwy.

 

Cyhoeddwyd y newyddion yn wreiddiol ar wefan Prifysgol De Cymru 


Share