Cyd-Gyfarwyddwr WISERD Yr Athro Gary Higgs yn ennill Gwobr Effaith USW 2019


Impact Awards 2019 Gary Higgs

Mae’r Athro Gary Higgs a’i dîm wedi derbyn Gwobr Effaith USW am eu hymchwil sy’n ceisio gwella gwasanaethau canser symudol. Cafodd yr ymchwil ei gynnal ar y cyd gyda Gofal Canser Tenovus ac mae’n sicrhau bod triniaeth canser yn cael ei darparu yn nes at gartrefi cleifion drwy ehangu cyrhaeddiad y gwasanaethau symudol.

Gweithiodd yr Athro Gary Higgs a Richard Williams, myfyriwr PhD, o Grŵp Ymchwil SGDd ar y prosiect ‘Gwella gwasanaethau canser symudol gan ddefnyddio technolegau gofodol ffynhonnell agored’, i ddatblygu dulliau a modelau GIS manwl fel bod Tenovus yn gallu chwilio am anghydraddoldebau gofodol o ran mynediad at wasanaethau a gwella lleoliad a chynnal gwasanaethau iechyd symudol.
Bydd y gwaith hwn yn golygu bod Tenovus yn gallu trin cleifion yn nes at adref, ymestyn cyrhaeddiad eu gwasanaethau, a helpu i leihau straen, pryder a blinder y claf.

Ychydig ohonom sydd heb gael ein heffeithio mewn unrhyw ffordd o gwbl gan ganser. Felly, mae’r ymchwil hon wedi rhoi boddhad arbennig o ystyried yr angen i leihau’r pellteroedd dan sylw i gael triniaeth a chyngor. Mae’r manteision i gleifion ar adeg arbennig o anodd yn glir – lleoliadau mwy cyfleus a hygyrch ar gyfer triniaeth a manteision amgylcheddol o ran lleihau’r milltiroedd teithio.

Yr Athro Gary Higgs, Athro Ymchwil

Mae Gwobrau Effaith USW yn dathlu ymchwil sy’n effeithio ar y gymuned a chymdeithas ehangach yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.


Rhannu