Cyfarwyddwr WISERD yn derbyn medal Hugh Owen am ymchwil addysg


Mae’r Athro Sally Power, Cyfarwyddwr WISERD, wedi derbyn Medal Hugh Owen 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru am ei hymchwil addysgol ragorol.

Professor Sally Power

Mae’r Athro Power yn ymchwilydd addysg blaenllaw, gyda ffocws eang ar bolisi ac anghydraddoldeb. Mae hi’n chwarae rhan sylweddol wrth gefnogi ymchwil addysg ledled Cymru.

Mae Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD (WMCS), a gyfarwyddwyd gan Power ers 2012, yn ffordd arloesol o gasglu profiadau a chanfyddiadau pobl ifanc ac yn darparu labordy unigryw ar gyfer ymchwil addysg yng Nghymru. Rydym wedi rhannu ei ganfyddiadau mewn amrywiaeth o ffyrdd hygyrch i fyfyrwyr ysgol, yn yr Eisteddfod ac i athrawon. Mae canfyddiadau allweddol yr astudiaeth wedi cael eu harddangos gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ar gardiau post ffeithlun fel enghraifft o ledaenu’r wybodaeth mewn ffordd hygyrch.

 

Mae’r Athro Power yn siaradwr rheolaidd ar y llwyfan rhyngwladol ac mae’n aelod o nifer o baneli yn y DU a thramor. Mae hi wedi bod yn rhan o geisiadau llwyddiannus am dros £10 miliwn o ddyfarniadau grant ac mae ganddi ddau lyfr i’w cyhoeddi gyda Policy Press eleni.

Wrth dderbyn y fedal, dywedodd yr Athro Power:

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael y Fedal hon. Rydw i wedi bod yn ffodus iawn o weithio gyda chydweithwyr rhyfeddol dros y blynyddoedd, ac rwy’n ddiolchgar i’r holl sefydliadau ac unigolion sydd wedi ariannu a chymryd rhan yn fy ymchwil.

“Hoffwn hefyd ddiolch i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am ddarparu llwyfan i arddangos ymchwil addysg. Mae datblygu cymuned ymchwil bywiog a chynaliadwy yn bwysig iawn ar gyfer dyfodol Cymru.”


Rhannu