Cyflwyniad gan WISERD yng Ngŵyl y Gelli 2019


Jean Jenkins presenting at Hay Festival 2019

Ddydd Mawrth 28 Mai, cyflwynodd Dr Jean Jenkins ei gwaith ymchwil ar hawliau cyflogaeth yn un o wyliau llenyddiaeth enwocaf y byd. Roedd ei hanerchiad, ‘Fashion – an Industry of Gross Exploitation’, yn archwilio hanes diwydiant a ddisgrifiwyd amser maith yn ôl fel ‘diwydiant parasitig’ oherwydd bod ei weithwyr yn dioddef camdriniaeth arswydus.  Mae maes cynhyrchu dillad yn dal yn enwog am hynny heddiw. Serch hynny, nid dioddefwyr truenus yw’r gweithwyr – maen nhw’n ymladd yn ôl, ac roedd yr anerchiad hwn yn bwrw goleuni ar frwydrau gweithwyr, er gwaethaf y pwerau sydd yn eu herbyn.

Yn 1909, ysgrifennodd Nancy Meyer a Clementina Black The Makers of our Clothes, a chyflwyno eu dogfennaeth ynghylch arferion gwaith yn y fasnach ddillad i Fwrdd Masnach y Deyrnas Unedig mewn ymgais i sicrhau cefnogaeth y wladwriaeth i reoleiddio safonau gofynnol o ran tâl a chyflogaeth. Pwysleisiodd Jean berthnasedd parhaus eu dogfennaeth ar yr hyn oedd yn cael ei alw ar y pryd yn ‘ddiwydiant parasitig’ i weithwyr ffatrïoedd dillad yn yr 21ain ganrif, a hynny yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.

Dywedodd Jean: Rydw i yma i chwalu unrhyw fythau bod y diwydiant cynhyrchu dillad bellach yn unrhyw beth ond un sydd bob amser wedi targedu’r bregus.”

Aeth Jean ymlaen: “Mae’n ddiwydiant sy’n ynysu unigolion trwy’r broses gynhyrchu.”

Fodd bynnag, o’r gorffennol hyd heddiw, mae gweithwyr wedi dod ynghyd, gan wneud trefniadau a gwrthsefyll eu cyflogwyr, er mwyn cael mynediad i’r hawliau cyflogaeth mwyaf sylfaenol – yr hawl i fargeinio er mwyn amddiffyn eu buddiannau eu hunain.

Erbyn canol yr 20fed ganrif, cymerwyd camau ymlaen o ran amodau gwaith a chyflog, o ganlyniad i reoliadau’r wladwriaeth a threfniadaeth undebau llafur, ond yn ystod ‘Brwydr Dillad Fawr’ y 1980au a’r tu hwnt, adleolwyd y diwydiant i ranbarthau oedd yn datblygu’n ddiwydiannol, lle mae’r gweithwyr eto wedi wynebu camfanteisio arswydus oherwydd cadwyn gyflenwi fyd-eang a model busnes sy’n canolbwyntio’n bennaf ar leihau costau.

O ganlyniad, mae amodau gweithwyr yn dioddef, ac mae is-gontractio gweithgynhyrchu yn creu pellter rhwng y brand comisiynu a chyfrifoldeb ac atebolrwydd.  O ganlyniad, ar lawr gwlad heddiw gwelwn fethiant cyson o ran cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, ac ni allwn dderbyn sicrwydd y brandiau bod popeth yn dda o ran eu cadwyn gyflenwi yn ddi-gwestiwn.

Dyma rai o’r materion mae gweithwyr ffatri ddillad yn eu hwynebu yn yr 21ain ganrif: sarhad geiriol, amddifadu o seibiant, bwyd, dŵr ac egwyl toiled, bychanu ac aflonyddu, ac erledigaeth am drefnu’n undebau llafur annibynnol. Gwaetha’r modd, nid ydym ni, y defnyddwyr, yn nodweddiadol ond yn clywed am yr amodau gwaith hyn pan fydd methiannau diogelwch yn achosi nifer sylweddol o farwolaethau, sy’n golygu bod rhaid i’r cyfryngau roi sylw iddyn nhw. Fodd bynnag, yng nghorneli cudd y gadwyn gyflenwi, mae amddifadedd beunyddiol gwaith incwm isel yn rhygnu mlaen, ac mae trychinebau’n dal i ddigwydd allan o’r golwg.

Gofynnodd aelodau o’r gynulleidfa gwestiynau am beth gallen nhw, y defnyddwyr, ei wneud i helpu.  Esboniodd Jean nad osgoi brandiau a manwerthwyr yw’r ateb, ac nad oes cysylltiad o reidrwydd rhwng pris dillad a lefel y camfanteisio. Fodd bynnag, mae holi’r brandiau a’r manwerthwyr yn hanfodol. Wrth wneud hynny, dylen ni fod yn holi am hawliau bargeinio gweithwyr a’u hurddas yn y gwaith, nid dim ond faint maen nhw’n ei ennill. Hefyd mae modd cefnogi ymgyrchoedd ac ymgysylltiad undebau llafur â materion ar gyfer y gweithiwr ar y cyrion, ble bynnag mae’n byw ac yn gweithio.

Yn nathliad llenyddol a chreadigol Gŵyl y Gelli, ymddangosai’n briodol y dylai Jean bwysleisio sut mae caneuon yn hanesyddol wedi bod yn fodd i weithwyr ddod at ei gilydd a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Cafwyd dechrau a diwedd cerddorol i gyflwyniad Jean, pryd y bu aelodau’r gynulleidfa yn gwrando ar nifer o weithwyr dillad heddiw yn canu mewn unsain. Roedd hynny’n ffordd rymus o’n hatgoffa ynghylch neges Jean i weithwyr y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, sy’n ymdrechu mewn diwydiant sydd trwy ei weithredoedd yn eu gwreiddio mewn tlodi: “Trefnu sy’n grymuso.  Ymladd yn ôl yw’r hyn sy’n rhyddhau mewn gwirionedd.”

Mae Jean Jenkins yn Ddarllenydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Jean yn gweithio ar brosiect Cronfa Ymchwil Heriau Byd-eang a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyda WISERD, sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd o gael gafael ar ddatrysiad ar gyfer gweithwyr dillad yn y gadwyn gyflenwi dillad y dyddiau hyn. Roedd Jean yn un o dri academydd o Brifysgol Caerdydd a gymerodd ran yn yr Ŵyl eleni.

Gŵyl lenyddiaeth flynyddol yw Gŵyl y Gelli a gynhelir yn y Gelli Gandryll. Yn 2019, cynhaliwyd yr ŵyl rhwng 23 Mai a 2 Mehefin ac roedd disgwyl iddi ddenu mwy na 110,000 o bobl i Gymru.


Rhannu