Cyfres Gweminar IDEAL 2022-2023


Mae IDEAL (Gwella’r profiad o ddementia a gwella bywyd egnïol: Byw’n dda gyda dementia) yn brosiect ymchwil dementia ar raddfa fawr a arweinir gan bartneriaid academaidd ym Mhrifysgol Caerwysg. Dechreuodd yn 2014 a bydd yn gorffen yn 2023. Mae WISERD wedi cyfrannu at astudiaeth IDEAL, gyda’r nod o ddeall y rhesymau pam mae ffactorau cymdeithasol a seicolegol penodol yn llywio profiad pobl o fyw gyda dementia, er gwell neu er gwaeth.

Mae’r prosiect yn gweithio gyda phobl â dementia a gofalwyr i ddeall beth sy’n gwneud gwahaniaeth i fyw bywyd da gyda dementia, sut mae hyn yn newid dros amser, a sut i wella’r profiad o fyw gyda dementia.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ganfyddiadau IDEAL drwy gymryd rhan yn y gyfres hon o gweminarau cyhoeddus rhad ac am ddim yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd pob gweminar yn:

  • cynnwys arbenigwyr yn ôl profiad yn ogystal ag ymchwilwyr
  • cael ei recordio a’i rannu’n ddiweddarach ar sianel YouTube IDEAL
  • dechrau am bum munud wedi’r awr ac yn gorffen am bum munud i’r awr, er mwyn i chi allu mynd i gyfarfodydd eraill
  • cynnig sesiwn holi ac ateb i’r gynulleidfa

Amserlen Gweminar

Teitl y gweminar Dyddiad ac amser Dolen Eventbrite i gadw lle
Diffinio Dementia: Cynnal senarios cyfathrebu Dydd Llun 24 Hydref 10.05-10.55 https://www.eventbrite.co.uk/e/407909457167
Cysylltiad cymdeithasol a chymunedol â dementia Dydd Llun 28 Tachwedd 13.00-14.00 https://www.eventbrite.co.uk/e/414593790187
Beth yw’r ffordd orau i ni ymateb i gost dementia? Trafodaeth ar agweddau economaidd dementia Ddydd Mercher 13 Rhagfyr, 14:00-15:00 https://www.eventbrite.co.uk/e/415173303527
Cwrdd â grŵp ALWAYS: Profiad bywyd mewn ymchwil dementia Dydd Llun 23 Ionawr 2023, 14:00-15:00 https://www.eventbrite.co.uk/e/415209351347
Cynrychioliadau Dementia: Sut mae pobl â dementia yn deall y cyflwr Dydd Iau 16 Chwefror 11:00-12:00 https://www.eventbrite.co.uk/e/415237304957
Cadw’n actif gyda dementia: Trafodaeth bord gron Dydd Mawrth 14 Mawrth

2023, 14:00-15:00

https://www.eventbrite.co.uk/e/415387173217
Technoleg gynorthwyol a dementia Dydd Gwener 21 Ebrill 2023, 14:00-15:00 https://www.eventbrite.co.uk/e/415874510857

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm yn IDEAL@exeter.ac.uk.

Cynhelir pob gweminar ar Zoom.


Share