Dathlu Ymchwil I’r Gymdeithas Sifil: Pennod Newydd


Celebrating Civil Society Research event - group shot of all attendees at the Senedd

Yr wythnos hon lansiwyd ein cynllun pum mlynedd ar gyfer ymchwil i’r gymdeithas sifil mewn digwyddiad i randdeiliaid yn y Senedd. Bydd ein hymchwil newydd yn edrych ar anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd, mudo ac amlddiwylliannaeth, yr economi sylfaenol, deinameg newidiol gwaith, a hawliau anifeiliaid a deallusrwydd artiffisial.

Mynychodd dros 70 o bobl Dathlu ymchwil i’r gymdeithas sifil – pennod newydd, gan gynnwys rhanddeiliaid allweddol o’r sectorau cyhoeddus, preifat, polisi a’r trydydd sector. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Mark Drakeford, AC, Prif Weinidog Cymru a’r Athro Alison Park, Cyfarwyddwr Ymchwil yn y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Left to right: Professors Alison Park (ESRC), Ian Rees Jones and Sally Power (WISERD)

Left to right: Professors Alison Park (ESRC), Ian Rees Jones and Sally Power (WISERD)

Mae’r Ganolfan Cymdeithas Sifil newydd yn ganlyniad i £6.3m o gyllid ESRC, rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, a bydd yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf brys sy’n wynebu’r gymdeithas heddiw.  Bydd yn datblygu ac yn ymestyn yr ymchwil perthnasol i bolisi o’r rhaglen cymdeithas sifil flaenorol.

Mark Drakeford AM, First Minister of Wales speaking at the event

Mark Drakeford AM, First Minister of Wales speaking at the event

Yn y digwyddiad, meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Mae llwyddiant WISERD yn dyst i’w ddull o gydweithio â phrifysgolion ac elusennau ledled Cymru, Ewrop, a’r byd. Ni fu ffeithiau erioed mor bwysig, a bydd cael canolfan wybodaeth o safon byd sy’n ein helpu ni yn y Llywodraeth i wneud y penderfyniadau cywir, yn ein helpu i adeiladu Cymru well i ni, ac i genedlaethau’r dyfodol.”

Exhibition of WISERD Civil Society Centre findings

Exhibition of WISERD Civil Society Centre findings

Bydd y Ganolfan Cymdeithas Sifil newydd yn cynnwys nifer o brosiectau ymchwil rhyngddisgyblaethol a fydd yn digwydd o dan bedair thema:

Roedd y digwyddiad yn cynnig cyfle i’r rhanddeiliaid rwydweithio â’r prif ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiectau newydd, a hefyd i edrych ar arddangosfa o rai o’r canfyddiadau allweddol o’n hymchwil flaenorol i’r gymdeithas sifil.

 

Civil Society Centre Director, Ian Rees Jones, welcomed stakeholders to the event

Civil Society Centre Director, Ian Rees Jones, welcomed stakeholders to the event

 

Ian Rees Jones, Cyfarwyddwr Canolfan y Gymdeithas Sifil: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael rhagor o gyllid o raglen hynod gystadleuol. Mae hyn yn dyst i waith caled pob un o ymchwilwyr a staff WISERD, y cymorth parhaus gan y prifysgolion WISERD craidd, a gan ein gwahanol bartneriaid ym maes y gymdeithas sifil a pholisi.

“Bydd yr ymchwil yn ein galluogi i edrych ar y ffyrdd y mae dinasyddiaeth a hawliau cysylltiedig yn fannau o newid ac ymrafael mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae’n gyfle euraid i WISERD dyfu fel canolfan greadigol a chartref i arweinwyr ymchwil rhyngwladol, ac i gyflawni ymchwil ryngddisgyblaethol arloesol yn seiliedig ar ddiwylliant rhyddid meddwl a syniadau.”

 

 

Demonstrations of WISERD's online tools and resources took place on the interactive stand

Demonstrations of WISERD’s online tools and resources took place on the interactive stand

 

Drwy gydol ein hymchwil i’r gymdeithas sifil hyd yma, bu ymchwilwyr WISERD yn ymwneud â datblygu dulliau ac adnoddau er mwyn helpu ymchwilwyr fod yn fwy effeithlon wrth chwilio am ddata, eu dadansoddi a’u rhannu. Dangoswyd WISERD DataPortal, WISERD UnionMaps a Deall Lleoedd Cymru ar stondin rhyngweithiol yn y digwyddiad.

Datblygir WISERD DataPortal ymhellach yn rhan o’r Ganolfan Cymdeithas Sifil dros y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â Labordy Data Addysg WISERD sydd newydd ei sefydlu. Fel yr unig labordy data mewn prifysgol yn y DU, bydd yn crynhoi’r holl ddata gweinyddol ar blant mewn ysgolion ac yn cysylltu hyn â ffynonellau data eraill. Bydd hyn yn galluogi ymchwilwyr addysg i wneud uwch ddadansoddiadau i feysydd fel perfformiad disgyblion ac ysgolion, effaith sefyll TGAU yn gynnar, a phatrymau a rhagfynegyddion gwaharddiadau o ysgolion.

Demonstrations of WISERD's online tools and resources took place on the interactive stand

WISERD Civil Society Photography Competition finalists

Hefyd cyhoeddwyd enillydd cystadleuaeth ffotograffiaeth gyntaf WISERD yn y digwyddiad. Gofynnon ni: “Beth mae cymdeithas sifil yn ei olygu i chi?” a chynigiodd dros 40 o gystadleuwyr amrywiaeth o safbwyntiau, gan ddangos popeth o weithwyr yn streicio a gwrthdystwyr hinsawdd i gymunedau lleol yn cydweithio i fynd i’r afael â phroblemau byd-eang. Dangoswyd gwaith y tri yn y rownd derfynol a phleidleisiodd yr ymwelwyr dros eu hoff ffotograff. Roedd yr un a enillodd, a oedd â’r teitl ‘People Power’, gan Alexandra Williams, Prifysgol Caerdydd.

Sally Power, Cyfarwyddwr WISERD: “Mae’r digwyddiad hwn, Dathlu Ymchwil i’r Gymdeithas Sifil – Pennod Newydd, yn cydnabod camp wych fy nghydweithwyr, a llwyth o gefnogaeth a chyfranogiad gan ein rhanddeiliaid, yr ydym yn ddiolchgar iawn amdano. Mae ein rhanddeiliaid wedi ein helpu i nodi’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas sifil ac i edrych ar ffyrdd y gallem fynd i’r afael â’r rhain.

“Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru, am lwyfannu’r digwyddiad ac am siarad yma. Hefyd hoffem ddiolch i Alison Park o’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, nid yn unig am ymuno â ni i ddathlu ein gwaith, ond hefyd am ei chyfraniad i sicrhau bod y Cyngor yn dal i gefnogi gwyddoniaeth gymdeithasol ragorol, annibynnol a mawr ei heffaith.”

Cydnabyddir yn ddiolchgar gefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Chwilio am #CivilSocietyNewChapter ar Twitter.


Rhannu