Dr Igor Calzada ar restr o 100 o’r Academyddion Mwyaf Dylanwadol yn y Llywodraeth


100 Most Influential Academics in Government - graphic showing thumbnails of each person

Mae Dr Igor Calzada yn ymddangos ar restr Apolitical o 100 o’r Academyddion Mwyaf Dylanwadol yn y Llywodraeth. Gwahoddwyd gweision sifil i enwebu’r academyddion sydd fwyaf dylanwadol i waith y llywodraeth.

Mae gwaith Dr Calzada yn plethu trawsnewidiadau digidol, trefol a gwleidyddol, gan roi sylw arbennig i lywodraethau rhanbarthol ar 1. dinasyddiaeth dinas glyfar, 2. meincnodi dinas-ranbarthau, a 3. hawliau digidol/dinasyddiaeth a mentrau cydweithredol data. Ef yw awdur y monograff diweddar, Smart City Citizenship, a gyhoeddodd Elsevier.

Mae’r rhestr Apolitical yn tynnu sylw at waith sydd wedi dylanwadu ar y broses llunio polisïau drwy roi cipolwg ar broblemau polisi, cyfrannu syniadau ac atebion arloesol, neu ychwanegu data perthnasol ac addysgiadol. Mae pob enwebai ar y rhestr wedi ymrwymo i wella gwaith y llywodraeth, ac mae eu hymchwil eisoes wedi cael effaith.

Eleni, mae Apolitical yn cydnabod academyddion sy’n gweithio mewn pum maes polisi amserol sy’n ganolbwynt i waith y llywodraeth ledled y byd. Mae’r meysydd yn cynrychioli problemau sy’n wynebu’r llywodraeth ym mhobman, ac yn gyfle i gydweithio rhynglywodraethol. Dyma’r meysydd hyn:

Adferiad o COVID-19

Cyflogaeth a sgiliau

Polisïau Cymdeithasol

Hinsawdd a chynaliadwyedd

Prosesau a dulliau llunio polisïau

Nid yw ymchwil polisi gwych gan sefydliadau academaidd bob amser yn gallu cael effaith yn syth. Ond pan fydd ymchwil yn cyd-fynd â llunwyr polisi, mae ganddo’r potensial i lywio cyfeiriad y llywodraeth. Felly, mae ymchwil academaidd yn parhau i fod yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth ac arloesedd.

Gallwch ddarllen yr eitem newyddion wreiddiol a gweld y rhestr lawn ar wefan Apolitical.


Rhannu