Archwilio cyfnodau pontio i addysg ôl-orfodol yng Nghymru


Mewn Cipolwg Data newydd gan YDG Cymru, edrychodd yr ymchwilwyr Dr Katy Huxley a Rhys Davies ar y trawsnewidiadau i addysg ôl-orfodol yng Nghymru.

Cysylltodd y tîm ffynonellau data addysg Cymru, gan ganiatáu iddynt nodi nodweddion sy’n gysylltiedig â’r rhai sydd, a’r rhai nad ydynt, yn pontio i ddysgu pellach. Roedd y setiau data cysylltiedig yn cynnwys Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion Data Cenedlaethol Cymru (NDC PLASC), y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion Ôl-16 (PLASC Ôl-16), a Chofnod Dysgwr Gydol Oes Cymru (LLWR).

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau cyfraddau pobl ifanc nad ydynt yn symud i gyflogaeth, addysg na hyfforddiant, a chodi dyheadau a chyrhaeddiad pobl ifanc sy’n agored i niwed. O ystyried hyn, archwiliodd yr ymchwilwyr ddilyniant disgyblion o addysg orfodol tua 16 oed, i leoliadau addysg ôl-orfodol.

Canfu’r tîm mai presenoldeb mewn colegau addysg bellach (AB) oedd y cam nesaf mwyaf cyffredin i ddisgyblion Blwyddyn 11 a thua 55% yn cofrestru mewn colegau AB. Yn dilyn hyn roedd 40% o’r disgyblion a aeth ymlaen i fynychu chweched dosbarth. Canfu’r tîm nad oedd modd dod o hyd i tua 8% o ddisgyblion yn y cofnodion.

Mae nifer o resymau pam na ellir lleoli disgyblion Blwyddyn 11 gyda’r data addysg ôl-orfodol. Awgrymodd Arolwg Cyrchfannau Gyrfa Cymru 2020 fod tua 3% o ddisgyblion Blwyddyn 11 wedi mynd i weithio, bod 3% arall yn dilyn hyfforddiant yn y gweithle (ond heb fod yn gyflogedig), a bod lleiafrif bach wedi ‘gadael yr ardal’. Mae’r gweddill yn debygol o fod yn economaidd anweithgar.

Mae canfyddiadau’r tîm yn awgrymu y gallai disgyblion sy’n gymwys i gael cinio ysgol am ddim a’r rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA)1 elwa o gymorth wedi’i dargedu wrth fynd i addysg ôl-orfodol ac aros ynddi.

Nododd yr ymchwilwyr bwysigrwydd deall nodweddion y rhai nad ydynt yn parhau i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (PCET) yn eu Cipolwg Data:

“Drwy ddarparu cymorth priodol i’r unigolion hyn efallai y byddai modd lleihau ymhellach fylchau cyrhaeddiad a nifer y bobl ifanc NEET (nid mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) yng Nghymru.”

Bellach cyfeirir at AAA yn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn dilyn Deddf ADY 2020. Defnyddiodd yr ymchwilwyr y term AAA gan ei fod yn cynnwys cyfnod y data dan sylw.

Roedd y newyddion hwn i’w weld ar wefan YDG Cymru yn wreiddiol.


Rhannu