Mae’r bwlch cyflogau rhwng y rhywiau a dilyniant gyrfa yn ehangu gyda phrofiad yn y sector addysgu yng Nghymru


Defnyddiodd dadansoddiad diweddar gan ymchwilwyr YDG Cymru ddata gweinyddol i amcangyfrif cynnydd gyrfa a gwahaniaethau cyflog ymhlith athrawon benywaidd a gwrywaidd ac arweinwyr ysgolion yng Nghymru.

Gan ddefnyddio data gweinyddol dienw o Gyfrifiad Blynyddol y 2019 a 2020 (SWAC), canfu ymchwilwyr addysg YDG Cymru fod 77% o’r gweithlu athrawon cymwys yn fenywod, fodd bynnag:

  • Roedd gan 15% o athrawon gwrywaidd rolau uwch arweinydd o’u cymharu â 9% o athrawesau
  • Roedd gan 16% o athrawon gwrywaidd rolau arwain ar lefel ganolig o’u cymharu ag 11% o athrawesau
  • I’r gwrthwyneb, roedd gan 9% o athrawesau rolau cydlynol o’u cymharu â 5% o athrawon gwrywaidd

O ran cyflog, canfuwyd enillion wythnosol cyfartalog rhwng athrawon gwrywaidd a benywaidd ar wahanol gyfnodau gyrfa gan gynnwys:

  • Enillai athrawon dosbarth gwrywaidd 0-2 flynedd ar ôl y cymhwyster addysgu, ar gyfartaledd, £8 yn fwy yr wythnos nag athrawesau, gan godi i £60 yn fwy yr wythnos i’r rhai sydd ag 20+ mlynedd o brofiad
  • Yn achos uwch arweinwyr, enillai staff gwrywaidd 6-8 mlynedd ar ôl cymhwyster addysgu £56 yn fwy yr wythnos na’u cyfoedion benywaidd, gan godi i £137 yn fwy yr wythnos ar ôl 20+ mlynedd o brofiad

Cynhaliwyd dadansoddiad atchweliad i archwilio a oedd y tueddiadau hyn yn parhau’n bresennol ar ôl rheoli ar gyfer gwahaniaethau rhwng unigolion megis patrymau gwaith, blynyddoedd o brofiad, sector yr ysgol ac awdurdod addysg lleol.

Canfu’r dadansoddiad hwn fod athrawon gwrywaidd fwy na dwywaith yn fwy tebygol nag athrawesau o fod mewn swydd uwch arweinydd. Enillai athrawesau cymwysedig 1.6% yn fwy mewn cyflog wythnosol nag athrawon gwrywaidd, fodd bynnag, roedd athrawesau mewn swyddi uwch reolwyr yn ennill tua 6% yn llai mewn cyflog wythnosol cyfartalog na’u cymheiriaid gwrywaidd ar ôl rheoli am ffactorau ysgol ac unigol eraill.

Mae’r SWAC yn cadw gwybodaeth am yr holl staff a gyflogir mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae’n cynnwys cofnodion ar rolau staff, cyflog a manylion contract, nodweddion staff, llwybrau cymwysterau addysgu a dyddiadau a gyflawnwyd. Cafodd data o’r cyfrifiad ysgolion eu cysylltu â’r SWAC i gael gwybodaeth ychwanegol am nodweddion ysgolion megis maint yr ysgol a chyfrwng iaith.

Roedd y newyddion hwn i’w weld ar wefan YDG Cymru yn wreiddiol.


Rhannu