IMAJINE: Ailystyried anghydraddoldebau tiriogaethol drwy gyfiawnder gofodol


IMAJINE logoMae’r parhad yn yr anghydraddoldebau rhwng rhanbarthau, er gwaethaf dros dri degawd o ymyriadau o dan Bolisi Cydlyniant yr UE, yn broblem o bwys i Ewrop ac mae awydd cynyddol i ailystyried dulliau gweithredu. Dros y chwe blynedd diwethaf, mae WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ceisio gwneud hynny drwy arwain prosiect mawr o’r enw IMAJINE (Mecanweithiau integreiddiol ar gyfer mynd i’r afael â chyfiawnder gofodol ac anghydraddoldebau tiriogaethol yn Ewrop).

Wedi’i ariannu gan Horizon 2020, mae IMAJINE wedi mabwysiadu dulliau cyfannol, amlddisgyblaethol a chyfunol sy’n cynnwys consortiwm o 16 o bartneriaid ar draws 13 o wledydd. Wrth wraidd dull IMAJINE mae’r cysyniad o ‘gyfiawnder gofodol’, sydd wedi’i archwilio fel ffordd amgen o fynd i’r afael â chwestiynau sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb tiriogaethol. Mae hyn yn golygu mynd y tu hwnt i fapio gwahaniaethau i gwestiynu’r prosesau sy’n cynhyrchu deilliannau anghyfartal, archwilio canfyddiadau o ‘degwch’, ac ystyried y goblygiadau gwleidyddol wrth i alwadau gael eu gwneud am ‘gyfiawnder’.

Mae ymchwilwyr WISERD wedi bod yn gysylltiedig â phob agwedd o IMAJINE. Cynorthwyodd yr Athro Rhys Jones y gwaith o ddadansoddi trafodaethau polisi a fframio anghydraddoldeb a chydlyniant, a chyfrannodd Dr Maria Plotnikova at ddadansoddiad econometrig o anghydraddoldebau rhanbarthol a’u hesblygiad. Cwblhaodd Dr Rhys Dafydd Jones a Dr Bryonny Goodwin-Hawkins ymchwil yng Nghymru ar y cysylltiadau rhwng mudo ac anghydraddoldebau tiriogaethol. Yn y cyfamser, ymchwiliodd Dr Anwen Elias, ynghyd â Dr Elin Royles, Dr Huw Lewis, Dr Nuria Franco Guillen a Dr Patrick Utz, i sut mae syniadau am gyfiawnder gofodol wedi’u mynegi yn honiadau symudiadau ynghylch ymreolaeth diriogaethol.

Yr Athro Michael Woods oedd y cydlynydd fu’n rheoli’r prosiect ac yn goruchwylio’r broses o integreiddio canlyniadau o’r gwahanol becynnau gwaith wrth agosáu at gwblhau IMAJINE ym mis Mehefin 2022. Mae’r dadansoddiad integreiddiol wedi creu darlun beirniadol newydd am gysyniadu cyfiawnder gofodol a’i gymhwyso mewn ymchwil. Bydd hyn yn cael ei drafod mewn llyfr sydd ar y gweill, In Search of Spatial Justice (Edward Elgar), sy’n cael ei fwydo i mewn i argymhellion polisi, a’i drafod mewn seminar gyda rhanddeiliaid polisïau ym Mrwsel.

Un nodwedd newydd o IMAJINE fu ymhelaethu ar senarios ar gyfer anghydraddoldebau tiriogaethol a chyfiawnder gofodol yn Ewrop yn 2050, yn seiliedig ar amcanestyniadau o ganfyddiadau’r ymchwil. Mae’r pedwar senario yn dychmygu cydbwysedd gwrthgyferbyniol rhwng undod ac ymreolaeth a gwahanol bwyslais rhwng twf economaidd a lles cymdeithasol sy’n deillio o wahanol bolisïau.

Mae’r gwahanol sefyllfaoedd yn dangos casgliad craidd IMAJINE: nid oes un ateb gwrthrychol ar gyfer sicrhau cyfiawnder gofodol yn Ewrop. Yn hytrach, mae angen trafodaeth arnom ar ba fath o gyfiawnder gofodol yr ydym ei eisiau. Mae cwestiynau ynghylch a ddylid canolbwyntio ar ddosbarthiad cyfoeth yn gyfartal neu’r hawl i ranbarthau wneud penderfyniadau dros eu hunain, er enghraifft, yn ganolog i bryderon cyfredol sy’n amrywio o Brexit a chyflawni agenda lles Cymru, i adferiad ar ôl COVID ac argyfwng yr hinsawdd. Yn ôl pob golwg, roedd yr ateb i sut i ddatrys y cyfyng-gyngor o ran sicrhau cyfiawnder gofodol yn Ewrop yn enw ein prosiect ymchwil o’r cychwyn cyntaf.


Rhannu