Mae’r prosiect IMAJINE (Mecanweithiau Integreiddiol ar gyfer Mynd i’r Afael â Chyfiawnder Gofodol ac Anghydraddoldebau Tiriogaethol yn Ewrop) yn un o’r prosiectau gwyddorau cymdeithasol mwyaf i gael ei ariannu fel rhan o raglen Horizon 2020 yr UE. Nod y prosiect pum mlynedd yw llunio dulliau polisi newydd ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo dosbarthiad tecach o adnoddau ledled yr UE.

Amcan craidd prosiect IMAJINE yw llunio mecanweithiau polisi integreiddiol newydd i alluogi asiantaethau’r llywodraethau Ewropeaidd, cenedlaethol a rhanbarthol i ymdrin ag anghydraddoldebau tiriogaethol yn yr Undeb Ewropeaidd yn fwy effeithiol, ac i ddychmygu dyfodol ar gyfer rhanbarthau Ewrop lle mae’r dosbarthiad o adnoddau yn gyson ag egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol a gofodol.

Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd 15 partner o bob rhan o Ewrop ac yn dilyn dull rhyngddisgyblaethol unigryw o astudio anghydraddoldebau rhanbarthol. Bydd yn cyfuno arbenigedd economegwyr, daearyddwyr, cynllunwyr, gwyddonwyr gwleidyddol a chymdeithasegwyr sy’n gweithio ar ddadansoddiadau ac astudiaethau achos manwl ar lefel Ewropeaidd mewn 11 o wledydd, gan gynnwys Cymru.

Mae elfennau o’r astudiaeth IMAJINE yn cynnwys y canlynol:

•    dadansoddiad o ystadegau economaidd-gymdeithasol ar anghydraddoldebau

•    arolwg ar-lein i archwilio canfyddiadau cyhoeddus o anghydraddoldebau rhanbarthol a pholisïau cydlyniant

•    ymchwiliadau i’r cysylltiadau rhwng anghydraddoldebau rhanbarthol a mudo, ac anghydraddoldebau a symudiadau rhanbarthol ar gyfer ymreolaeth wleidyddol

•    ymchwil i sut mae llywodraethau’n defnyddio dosbarthiad gwasanaethau ac adnoddau cyhoeddus i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau

•    ymarferion ‘adeiladu senarios cyfranogol’ gyda rhanddeiliaid i archwilio opsiynau polisi posibl ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldeb

Mae cydlyniant tiriogaethol yn egwyddor allweddol i’r Undeb Ewropeaidd, ond ers 2008 mae anghydraddoldebau rhwng gwahanol ranbarthau yn Ewrop wedi cynyddu ac mae consensws cynyddol bod angen i ni ailedrych ar bolisïau ar gyfer cydlyniant cymdeithasol a datblygu rhanbarthol. Trwy weithredu dull eang, amlddisgyblaethol, nod y prosiect IMAJINE yw annog meddwl o’r newydd a syniadau newydd.

Un o’r elfennau y bydd y prosiect yn ei archwilio yw p’un a yw canfyddiadau cyhoeddus o anghydraddoldebau yn cyd-fynd â’r dadansoddiad ystadegol, a oes cysylltiadau rhwng anghydraddoldebau rhanbarthol a llifoedd ymfudo, ac a allai mwy o ymreolaeth wleidyddol i ranbarthau gyflwyno ffordd arall o fynd i’r afael ag anghyfiawnderau canfyddedig. Bydd y prosiect yn gweithio gyda rhanddeiliaid o lywodraethau, cyrff anllywodraethol a chymunedau i ddatblygu polisïau sy’n dychmygu dyfodol mwy gofodol gyfiawn i Ewrop.

 

Cyfweliad gyda’r Athro Michael Woods, Prifysgol Aberystwyth

Mae’r Athro Michael Woods o Brifysgol Aberystwyth yn trafod prosiect a gwblhawyd yn ddiweddar a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd o’r enw IMAJINE ac sy’n cynnwys 15 o bartneriaid ledled Ewrop, lle defnyddir fframwaith cyfiawnder gofodol i archwilio anghydraddoldebau tiriogaethol yn Ewrop ac effaith polisïau cydlyniant yr Undeb Ewropeaidd.