Yn nhrydedd Gynhadledd Polisi Cydlyniant yr UE yn Zagreb ym mis Tachwedd, cyflwynodd yr Athro Michael Woods ganfyddiadau prosiect IMAJINE Horizon 2020, sy’n cael ei arwain gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) a WISERD. A hithau wedi’i threfnu ar y cyd gan Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Polisi Rhanbarthol a Threfol y Comisiwn Ewropeaidd, y Gymdeithas Astudiaethau Rhanbarthol a Llywodraeth Croatia, daeth y gynhadledd â 150 o academyddion, llunwyr polisïau’r UE a chynrychiolwyr aelod-wladwriaethau ynghyd i drafod dyfodol polisi cydlyniant yn Ewrop a’i effaith wrth geisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.
Un o brif themâu’r gynhadledd oedd ymgysylltu â mega-dueddiadau, ac aeth Michael ati i rannu senarios (a welir isod) a ddatblygwyd yn rhan o brosiect IMAJINE ar gyfer Ewrop yn 2050. Mae’r rhain yn cynnwys ‘Cadarnle Arian’ lle mae cyfoeth yn cael ei ddosbarthu’n fwy cyfartal drwy waith canoli gwleidyddol a thwf economaidd; ‘Gwarcheidwad Gwyrdd’ lle mae’r UE yn ymateb i newid yn yr hinsawdd drwy ganolbwyntio ar les a chamau gweithredu canolog er mwyn helpu’r rhanbarthau yr effeithir arnynt fwyaf; ‘Sgaffald Silicon’ lle mae rhanbarthau wedi’u noddi’n gorfforaethol yn cystadlu, sy’n arwain at fwy o anghydraddoldeb; ac ‘Enfys Glytwaith’ lle mae Ewrop yn ymrannu oherwydd gwerthoedd diwylliannol cyferbyniol. Mae’r senarios hyn yn cynrychioli syniadau gwahanol o gyfiawnder gofodol, a’r her ym maes polisi cydlyniant yr UE yw penderfynu pa fath o gyfiawnder gofodol i’w sicrhau.
Darllenwch senarios IMAJINE yma.
Ymddangosodd yr eitem newyddion hon yn wreiddiol ar wefan Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.