Lansiad Llyfr WISERD ac Economïau’r Dyfodol


 

City Regions and Devolution in the UK front coverAr 19 Mai, cynhaliodd WISERD a Chanolfan Ymchwil Prifysgol Economïau’r Dyfodol ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ddigwyddiad ar-lein i lansio dau lyfr: City Regions and Devolution in the UK a The Political Economy of Industrial Strategy in the UK.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys trafodaeth gan yr awduron, ochr yn ochr â sylwebaeth gan banel uchel ei barch, gan gynnwys Dr Arianna Giovannini (Prifysgol De Montfort) a’r Athro Kevin Morgan (Prifysgol Caerdydd).

City Regions and Devolution in the UK, gan David Beel, Martin Jones ac Ian Rees Jones, yw’r diweddaraf yng nghyfres Cymdeithas Sifil a Newid Cymdeithasol WISERD gyda Policy Press.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r ‘ddinas-ranbarth’ wedi cael ei geni o’r newydd fel canolfan lywodraethu ofodol de facto ar gyfer datblygu economaidd a chymdeithasol. Mae’r llyfr hwn yn gwerthuso sut caiff dinas-ranbarthau eu hadeiladu ac yn ystyried sut mae ailstrwythuro llywodraethu yn dylanwadu ar ddaearyddiaeth wleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol datganoli.

 

The Political Economy of Industrial Strategy in the UK coverTrwy adolygu Dinas-Ranbarthau Manceinion Fwyaf, Sheffield, Bae Abertawe, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bargen Twf Gogledd Cymru, rhoddodd yr awduron sylw i’r tensiynau a’r cyfleoedd ar gyfer grwpiau elît lleol ac actorion cymdeithas sifil.

Mae The Political Economy of Industrial Strategy in the UK gan Craig Berry, Julie Froud a Tom Barker, yn gasgliad o draethodau gan academyddion ac ymarferwyr blaenllaw, gan gynnwys ymchwilwyr economi sylfaen WISERD. Mae’n ystyried effeithiolrwydd polisïau diwydiannol diweddar wrth fynd i’r afael â malais economaidd y DU. Oes gan y Deyrnas Unedig strategaeth ddiwydiannol o hyd? Sut dylem ni ddeall yr adnewyddiad yn niddordeb y llywodraeth mewn polisi diwydiannol – a sut mae hynny bellach wedi gwyrdroi i bob golwg – yn ystod y blynyddoedd diwethaf?

Mae’r llyfr yn canolbwyntio ar sylfeini gwleidyddol a sefydliadol polisi diwydiannol, gwerth arferion economaidd ‘sylfaenol’, her gwneud cyfalafiaeth yn fwy gwyrdd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol, a’r strwythurau llywodraethu ariannol a chorfforaethol newydd sy’n ofynnol i radicaleiddio strategaeth ddiwydiannol.


Rhannu