Mae ymchwil yn dangos pwysigrwydd Gyrfa Cymru yn ysgolion Cymru


Mae adroddiad newydd ADR-UK, Data Insight, gan Gyd-Gyfarwyddwr WISERD, Rhys Davies, yn datgelu rôl bwysig Gyrfa Cymru wrth gefnogi’r plant hynny sydd fwyaf angen arweiniad gyrfaoedd yn Ysgolion Cymru.

Ar ôl tynnu cyllid ar gyfer y Connexions Network yn ôl yn 2010 – gwasanaeth arweiniad gyrfaoedd pwrpasol i bobl ifanc – mynegwyd pryderon yn Lloegr nad yw’r ddarpariaeth gwasanaethau gyrfa yn ddigonol i fynd i’r afael ag anghenion pobl ifanc. .

Mewn astudiaeth ddiweddar o 13,000 o fyfyrwyr Blwyddyn 11 yn Lloegr, canfuwyd bod llai na dwy ran o dair o ddisgyblion Blwyddyn 11 wedi derbyn cyngor gyrfaoedd. Canfu’r ymchwil hefyd nad oedd y cymorth yn cyrraedd y rhai mwyaf anghenus, gan gynnwys y rhai â lefelau is o gyfalaf cymdeithasol.

Mewn cyferbyniad, yng Nghymru, cefnogir darparu addysg yrfaol mewn ysgolion gan Gyrfa Cymru, gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaol cenedlaethol a ariennir yn gyhoeddus.  Ers ei sefydlu yn 2012, mae Gyrfa Cymru wedi cael y dasg o leihau nifer y bobl ifanc sydd y tu allan i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth a blaenoriaethu ei gefnogaeth i’r rhai sydd fwyaf tebygol o ymddieithrio neu nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

 

Mae gostyngiadau sylweddol wedi bod yng nghyllideb graidd Gyrfa Cymru dros y degawd diwethaf.  Drwy’r adeg heriol honno, mae’r dadansoddiad yn dangos sut y mae Gyrfa Cymru wedi targedu ei wasanaethau i’r plant hynny y mae angen cymorth arnynt fwyaf.  Lle mae myfyrwyr yn wynebu ystod gynyddol gymhleth o ddewisiadau ar ôl gadael yr ysgol, mae gwasanaethau o’r fath yn hanfodol i gefnogi eu dilyniant hyd at fyd gwaith.

Awdur yr adroddiad Rhys Davies

 

Mae’r ymchwil yn dangos bod bron i ddwy ran o dair o ddisgyblion Cymru yn cael cymorth gan Gyrfa Cymru yn ystod Blwyddyn 11, gan gynyddu i 85% ym Mlwyddyn 12. Mae’r dadansoddiad yn cadarnhau bod Gyrfa Cymru yn cyflawni ei gyfrifoldeb o gefnogi’r disgyblion hynny sydd â’r anghenion mwyaf, gan gynnwys y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd â lefelau is o gyrhaeddiad academaidd a’r rhai â lefelau uwch o absenoldeb.


Rhannu