Mae’r dull trafnidiaeth yn dylanwadu ar gyfleoedd hamdden


Sun going down on a football pitch

Cyhoeddwyd papur newydd yn WISERD gan Andrew Price, Mitchel Langford a Gary Higgs ym Mhrifysgol De Cymru yn ddiweddar yn y cyfnodolyn, Case Studies on Transport Policy. Gan ddefnyddio data cyfleusterau chwaraeon gan Chwaraeon Cymru a data ffynhonnell agored ar leoedd gwyrdd, mae’r tîm yn ymchwilio i’r amrywiadau o ran y gallu i fwynhau cyfleoedd hamdden gan ddefnyddio dulliau trafnidiaeth gwahanol.

Amlygwyd problemau o ran hygyrchedd yn ystod y pandemig. Yn rhan o hyn, oherwydd mai ychydig oedd gallu pobl i ddefnyddio’r ddarpariaeth mewn cymdogaethau lleol, ac ar ben y ffaith bod caeau a chanolfannau hamdden wedi’u cau dros dro, a bod rhai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus wedi dod i ben, cyfyngwyd ar y cyfleoedd i wneud gweithgarwch corfforol.

Gallai sefydliadau chwaraeon cenedlaethol ddefnyddio’r technegau a ddatblygwyd yn ystod yr ymchwil hwn i gynllunio darpariaeth gwasanaethau mewn perthynas â’r galw posibl. Gan dynnu ar ganfyddiadau’r arolygon o chwaraeon ysgol gan Chwaraeon Cymru, er enghraifft, a mapio’r mynediad i’r cyfleusterau presennol, gellir targedu adnoddau i wella’r ddarpariaeth.

Hwyrach y bydd y technegau hyn yn arbennig o werthfawr lle mae’r adnoddau’n gyfyngedig a/neu lle mae gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gwael yn effeithio ar lefelau’r cyfranogiad ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a’r rheini sy’n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.

Darllenwch y papur sydd ar ffurf mynediad agored: Quantifying disparities in access to recreational opportunities by alternative modes of transport.

Llun gan Markus Spiske ar Unsplash.


Rhannu