Cyhoeddi erthygl newydd ar fesur hygyrchedd gwasanaethau bancio


Close-up of keypad on a cash machine

Mae erthygl newydd, mynediad agored mewn cyfnodolyn ar fesur hygyrchedd i wasanaethau bancio gan Dr Mitchel Langford, Andrew Price a’r Athro Gary Higgs o Brifysgol De Cymru, wedi’i chyhoeddi yn ISPRS International Journal of Geo-Information.

Mae’r erthygl yn dangos sut y gellir mesur hygyrchedd i ganghennau banc ar wahanol adegau o’r dydd a thrwy ddulliau trafnidiaeth gwahanol. Mae hyn yn dangos sut y gellir cyfuno cynnwys amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus ac oriau agor gwasanaethau megis banciau i ddarparu dadansoddiad llawnach o amrywiadau mewn hygyrchedd.

Mae dull gweithredu o’r fath wedi bod yn arbennig o berthnasol yn ystod Covid, pan fydd amseroedd agor gwasanaethau wedi’u cyfyngu’n aml ac rydym wedi gweld newidiadau yn y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus. Gall hyn yn ei dro gael ei gynnwys mewn asesiad llawnach o anghydraddoldebau daearyddol o ran mynediad at gyfleusterau yn dilyn rowndiau diweddar o gau canghennau banc.

Mae’r erthygl hefyd yn cynrychioli parhad o’r ymchwil yr oedd Dr Mitchel Langford yn gweithio arno yn ystod ei Gymrodoriaeth Academaidd gydag Ymchwil y Senedd.

Darllenwch erthygl y cyfnodolyn.

 

Credyd llun: “atm / cash machine buttons” by Leo Reynolds is licensed under CC BY-NC-SA 2.0.


Rhannu