Yr angen i ystyried opsiynau trafnidiaeth


Bus driving through a town

Mae papur diweddar gan yr Athro Gary Higgs, Dr Andrew Price a Dr Mitchel Langford o WISERD a Chanolfan Ymchwil GIS a gyhoeddwyd yn y Journal of Rural Studies wedi amlygu’r angen i ystyried yr opsiynau trafnidiaeth sydd ar gael i gael mynediad i wasanaethau i’r rhai sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Drwy dynnu ar ddadansoddiad gofodol o gau canghennau banc yn ystod rhan gyntaf COVID, y nod fu nodi cymunedau yng Nghymru a oedd wedi colli gwasanaethau ac a oedd hefyd wedi profi newidiadau yn narpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn. Mae angen ystyried materion o’r fath wrth gynllunio gwasanaethau neu fonitro effaith cau ar gyfer y rhai a all fod yn rhannol neu’n gyfan gwbl ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae gan gyfleoedd teithio cyhoeddus a llesol rôl bwysig iawn i’w chwarae wrth alluogi mynediad dyddiol i wasanaethau fel meddygfeydd, siopau bwyd a swyddfeydd post.

Mae’r papur yn tynnu sylw at ddull mwy cynhwysol o leoli gwasanaethau a chyfleusterau sy’n mabwysiadu lefelau priodol o ddarpariaeth trafnidiaeth i fynd i’r afael â phryderon ynghylch mynediad at wasanaethau hanfodol i’r rhai heb ddulliau trafnidiaeth preifat.

Gellir darllen y papur yn:

https://doi.org/10.1016/j.jrurstud.2022.07.012


Rhannu