Ymchwil newydd yn edrych ar effeithiolrwydd arweiniad gyrfaoedd a sut mae’n cael ei flaenoriaethu


Mae ymchwil newydd a wnaed gan YDG Cymru wedi edrych ar effeithiolrwydd arweiniad gyrfaoedd wrth gefnogi cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol a sut caiff arweiniad gyrfaoedd ei flaenoriaethu.

Defnyddiodd y gwaith, a wnaed gan ymchwilwyr YDG Cymru, Dr Katy Huxley a Rhys Davies, ddata dienw Gyrfa Cymru i archwilio sut mae’r cymorth gyrfaoedd a ddarperir i ddisgyblion cyfnod allweddol 4 (CA4) yn amrywio o ran eu nodweddion cefndir a’u hymatebion i arolwg ‘Gwirio Gyrfa’ Gyrfa Cymru.

Gyrfa Cymru yw’r darparwr gyrfaoedd cenedlaethol, gan gydweithio’n agos ag ysgolion i nodi’r rhai y mae angen cymorth arnynt fwyaf. Mae ysgolion yn rhannu gwybodaeth â Gyrfa Cymru am nodweddion disgyblion (lefelau cyrhaeddiad, presenoldeb, cymhwysedd prydau ysgol am ddim) i nodi’r disgyblion hynny sy’n debygol o fod yn y perygl mwyaf o ymddieithrio a disgyn y tu allan i’r system addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Yn ogystal, caiff disgyblion gyfle i gwblhau arolwg ‘Gwirio Gyrfa’ Gyrfa Cymru, sef dull dadansoddol sy’n helpu cynghorwyr gyrfaoedd i ddynodi disgyblion y mae angen cymorth arnynt fwyaf.

Gan ddefnyddio ymatebion o’r arolwg Gwirio Gyrfa ynghyd â data o’r Casgliad Data Cenedlaethol (NDC, gynt y Gronfa Ddata Ddisgyblion Genedlaethol, NPD), archwiliodd yr ymchwilwyr sut mae darparu cymorth gyrfaoedd i ddisgyblion CA4 yn amrywio o ran eu nodweddion cefndirol a’u hymatebion i’r dull Gwirio Gyrfa. Dangosodd yr ymchwil mai disgyblion CA4 sydd â lefelau cyrhaeddiad isel ac sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sydd fwyaf tebygol o dderbyn arweiniad beth bynnag fo’r ymatebion a ddarperir ganddynt trwy Wirio Gyrfa. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd y dangosyddion hyn i gynghorwyr gyrfaoedd wrth flaenoriaethu cymorth i ddisgyblion CA4.

Fodd bynnag, ymhlith y rhai sydd â lefelau cyrhaeddiad uwch, mae Gwirio Gyrfa yn rhoi’r cyfle i nodi’r rhai lle mae achos pryder ynghylch eu galluoedd ynghylch cynlluniau gyrfa. Mae’r canfyddiadau hyn yn arddangos y cymhlethdod y nodir bod angen cymorth ar ddisgyblion ag ef.

Wrth sôn am eu canfyddiadu, meddai’r tîm ymchwil: “Mae ein dadansoddiad sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol yn rhoi dealltwriaeth fwy cynnil o’r modd y caiff arweiniad gyrfaoedd ei dargedu’n bennaf ar grwpiau difreintiedig. Drwy roi gwell dealltwriaeth i ni o’r boblogaeth sydd mewn perygl, mae gan y canfyddiadau hyn hefyd oblygiadau pwysig o ran gwerthuso effeithiolrwydd arweiniad gyrfaoedd.”

Archwiliodd ail gyhoeddiad gan y tîm ymchwil y dylanwad y gall arweiniad gyrfaoedd ei gael ar bontio i Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) yng Nghymru. Roedd y dadansoddiad yn archwilio cyfraddau pontio i AHO yng Nghymru, a yw derbyn arweiniad gyrfaoedd yn ystod CA4 yn cefnogi pontio i AHO ac, os felly, a yw o fudd i rai grwpiau o ddisgyblion yn fwy nag eraill.

Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn awgrymu bod ymyrraeth megis cyfweliad cyfarwyddyd gyrfaoedd yn cael effeithiau cadarnhaol, yn enwedig ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig. Roedd derbyn cyfweliad arweiniad gyrfaoedd yn lleihau cyfradd y disgyblion a oedd yn dod yn rhai Nid mewn Addysg neu Hyfforddiant (NET) o 10% (y grŵp rheoli) i 8% (y grŵp triniaeth). Mae’r gostyngiad hwn o 2 bwynt canran yng nghyfradd NET yn cyfateb i ostyngiad o 20% yn y tebygolrwydd o gael eich gweld yn NET yn dilyn addysg orfodol.

Mae dadansoddiad pellach yn datgelu bod yr effaith gyffredinol hon yn cael ei llywio gan effaith arweiniad gyrfaoedd ymhlith is-grwpiau penodol o ddisgyblion. Gwelwn fod disgyblion sydd â chyrhaeddiad isel mewn TGAU 34% yn llai tebygol o fod yn NET os ydynt yn cael cyfweliad arweiniad. Os yw disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, maent 39% yn llai tebygol.

Mae’r tîm ymchwil yn bwriadu parhau â’u hastudiaethau gan ddefnyddio data gan Yrfa Cymru i archwilio’r ymyriadau sy’n arwain at y budd mwyaf i ddisgyblion.

Mae Gyrfa Cymru, a ffurfiwyd yn 2013, yn is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, sy’n darparu gwasanaethau gyrfaoedd annibynnol a diduedd i bob oed yng Nghymru. Gan weithio gyda phartneriaid mae Gyrfa Cymru’n cefnogi ysgolion i ddarparu addysg a gwasanaethau gyrfaoedd, ymgysylltu â chyflogwyr a cholegau, yn ogystal â darparu cymorth i raglenni cyflogaeth Llywodraeth Cymru megis Cymru’n Gweithio, ReAct+ a rhaglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Darperir cylch gwaith a chyllid Gyrfa Cymru bob blwyddyn gan Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Mae YDG Cymru wedi bod yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i archwilio sut y gellir defnyddio’r data y mae’n eu casglu i greu canfyddiadau newydd ar wahanol amgylchiadau a galluoedd ei gleientiaid i helpu i lywio gwelliannau yn y modd y darperir gwasanaethau.

“Mae Gyrfa Cymru yn falch iawn o gael gweithio gydag YDG Cymru i sicrhau bod ein data dienw ar gael iddynt ymgymryd â’u hymchwil amhrisiadwy. Mae canfyddiadau’r ymchwil yn gadarnhaol iawn, ac mae’n wych gweld yr effaith y mae ein gwasanaethau yn ei chael, yn enwedig ar y cwsmeriaid hynny yn y grwpiau mwyaf difreintiedig. Mae’r berthynas rhwng Gyrfa Cymru ac YDG Cymru yn un barhaus fydd yn ein helpu i ddysgu rhagor am sut mae ein gwasanaethau yn gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru ac edrychwn ymlaen at ganfyddiadau ymarferion ymchwil yn y dyfodol,” meddai Philip Bowden, Pennaeth Ansawdd a Chynllunio Gyrfa Cymru.

Mae YDG Cymru yn rhan o fuddsoddiad ADR UK ledled y DU a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’nrhan o UKRI. Mae YDG Cymru yn dod ag arbenigwyr gwyddor data yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, staff o Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd a thimau arbenigol o fewn Llywodraeth Cymru at ei gilydd i ddatblygu tystiolaeth newydd sy’n cefnogi’r Rhaglen Lywodraethu. drwy ddefnyddio Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe, i gysylltu a dadansoddi data dienw.

 

Cyhoeddwyd y newyddion yn wreiddiol ar wefan ADR Cymru.

Llun: Pexels.com


Rhannu