Mae’r Cipolwg Data hwn yn archwilio sut y defnyddir gwybodaeth i lywio penderfyniadau ynghylch darparu cyfweliadau arweiniad gyrfaoedd ymhlith disgyblion cyfnod allweddol 4 (CA4) yng Nghymru. Mae’n archwilio pwysigrwydd cymharol nodweddion cefndirol sydd wedi’u cynnwys mewn cofnodion addysg weinyddol o’u cymharu â gwybodaeth a ddarparwyd gan ddisgyblion drwy offeryn diagnostig Gyrfa Cymru.