Ymchwil newydd yn archwilio effaith datganoli ar lunio polisi cymdeithasol yng Nghymru


Senedd interior

Mae llyfr newydd yn cynnwys ymchwil gan gyd-gyfarwyddwr WISERD, yr AthroPaul Chaney ar effaith datganoli ar lunio polisi cymdeithasol yng Nghymru.

Mae “polisi cymdeithasol” yma yn cyfeirio at ymyriadau polisi’r llywodraeth i wella llesiant cymdeithasol. Mae’n cynnwys y rhan fwyaf o’r meysydd polisi a ddatganolwyd i Gymru o dan Ddeddfau datganoli olynol ers 1998, gan gynnwys iechyd, tai, addysg, cyfiawnder ieuenctid, gwasanaethau cymdeithasol, a’r celfyddydau a diwylliant – yn ogystal ag agweddau ar lawer o feysydd eraill, gan gynnwys yr amgylchedd, trafnidiaeth a datblygu economaidd.

Yn ogystal â thrafod arwyddocâd polisïau allweddol, fel mae’r canlynol yn amlinellu, mae’r ymchwil newydd hefyd yn tanlinellu effaith datganoli yng Nghymru ar sut caiff polisïau cymdeithasol eu llunio (cyfeirir at hyn weithiau fel yr “arddull polisi cenedlaethol” mewn llenyddiaeth academaidd).

Canfyddiadau allweddol

Mae’r dadansoddiad newydd hwn yn rhan o “Ymddiriedaeth, hawliau dynol a chymdeithas sifil o fewn economïau lles cymysg” pecyn gwaith sy’n rhan o raglen ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD. Mae’n datgelu mai un gwahaniaeth allweddol mae datganoli wedi’i gyflwyno i arddull polisi Cymru yw tiriogaethu hawliau lles cymdeithasol traddodadwy (h.y. y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol) a’r pethau y mae hawl i’w derbyn. Mae hyn oherwydd bod cyfres o statudau, ers 1999, yn gosod dyletswyddau ar weinidogion llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus datganoledig i gymhwyso egwyddorion penodol a chynnal buddiannau grwpiau cymdeithasol penodedig (e.e., Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), 2015) .

Mae tri phrif reswm pam mae’r cyfreithiau hyn yn bwysig.  Y cyntaf yw eu lled. Yr ail yw eu heffaith barhaus. Maent yn drosfwaol ac wedi’u llunio i lywio’r holl waith o lunio polisi cymdeithasol a darparu gwasanaethau yn y dyfodol ar draws holl ystod swyddogaethau datganoledig (iechyd, tai, addysg etc.). Yn drydydd, maent yn cyfleu hawliau traddodadwy i grwpiau a enwir (e.e. pobl hŷn, plant ac yn y blaen). (Gweler Tabl 1.)

I bob pwrpas, maent hefyd yn newid natur dinasyddiaeth wleidyddol yng Nghymru oherwydd bod y dyletswyddau cyfreithiol ar weinidogion yn golygu y gall pobl sy’n byw yma ddisgwyl i egwyddorion penodol gael eu cymhwyso. – ac anghenion grwpiau penodol gael eu hystyried wrth lunio polisïau a gwasanaethau cyhoeddus. Os bydd y wladwriaeth yn methu yn hyn o beth, gallant geisio iawn cyfreithiol (neu ymarfer eu hawliau) drwy’r llysoedd. Gall hyn gyferbynnu ag arfer mewn mannau eraill; a dyna pam mae eu heffaith ‘tiriogaethol’ yn cyfleu hawliau gwahanol o gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

 

Table 1. Territorially specific citizen rights

Tabl 1. Hawliau dinasyddion tiriogaethol-benodol a gyfleir mewn statudau trosfwaol Cymreig sy’n pennu sut caiff polisi cymdeithasol ei greu yng Nghymru

Heriau polisi cymdeithasol parhaus

Yn erbyn y cefndir hwn o newid cynyddol, mae heriau allweddol yn wynebu llunio polisi cymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd. Enghraifft amlwg yw Brexit. Ymhlith pethau eraill, mae gadael yr UE yn cynrychioli colled sylweddol o ran cymorth economaidd (yn 2019, derbyniodd Cymru £680m ar gyfer rhaglenni buddsoddi cymdeithasol).  Mae Brexit hefyd yn codi pryderon na fydd pwerau llunio polisi mewn meysydd datganoledig a ddychwelir o’r UE yn cael eu trosglwyddo i lywodraethau a seneddau Cymru (a’r Alban) – ond yn hytrach yn cael eu cadw yn San Steffan, mewn ymgais i ‘gipio pŵer’.

Mae’r dirwasgiad wedi Covid-19 hefyd yn fygythiad arall mawr i allu llywodraeth ddatganoledig i ariannu’r hyn a fu’n draddodiadol yn bolisïau cymdeithasol ymyriadol, cymharol hael.

Yn y gorffennol, mae polisïau allweddol wedi bod yn seiliedig ar hawliau cyffredinol (e.e. presgripsiynau GIG Cymru am ddim). Yn y blynyddoedd i ddod, mae’n debygol y bydd adnoddau prin yn cael eu dyrannu drwy wneud mwy o ddefnydd o brofion modd. Mae hefyd yn debygol y bydd yn rhaid i lywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i amrywio treth incwm (+/- 10 y cant). Y tebygrwydd yw y bydd y symudiad etholiadol sensitif hwn yn gweld enillwyr uchel yn cael eu targedu mewn mesurau ailddosbarthu cyllidol. Er gwaethaf hyn, yn ystod y blynyddoedd sy’n dod mae’r ddarpariaeth lles a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn debygol o fod yn destun toriadau dwfn a phoenus.

Mae hefyd yn wir bod y trefniadau datganoli presennol ar gyfer Cymru yn ansefydlog. Maent yn destun pwysau sy’n gwrthdaro, gan gynnwys lefelau sylweddol o gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru, Plaid Lafur Gymreig unoliaethol sydd am gynyddu’r pwerau a ddatganolwyd i lywodraeth a senedd Cymru, megis cyfiawnder troseddol – a llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan sy’n gwrthwynebu datganoli pellach.

Fel mae’r astudiaeth newydd hon yn datgelu, ers y datganoli yng Nghymru yn 1999, gwelwyd newidiadau cyflym ac arwyddocaol.  Mae polisïau cymdeithasol unigryw yn parhau i gael eu llywio gan wleidyddiaeth pleidiau tiriogaethol. Cânt eu llunio gan egwyddorion cenedlaetholgar sosialaidd a dinesig sy’n gyfunol, yn ymyraethol ac yn canolbwyntio ar Gymru.

Yn wyneb dewisiadau cyfansoddiadol cyhoeddus a gwleidyddol sy’n cyferbynnu’n gryf, mae’r goblygiadau i ddyfodol llunio polisi cymdeithasol yn aneglur. Os yw cyflymder y newid a welwyd yn ystod dau ddegawd cyntaf datganoli yn dysgu rhywbeth i ni, bydd yr 20 mlynedd nesaf yn hynod ddiddorol i’w harsylwi – gyda goblygiadau difrifol o bosibl i les cymdeithasol a statws cyfansoddiadol Cymru.

Gallwch ddarllen y canfyddiadau ymchwil llawn yn y llyfr newydd hwn:

Social Policy book coverChaney, P. (2022) Social Policy in Wales, Chapter 25 (pp. 166-171) in Pete Alcock, Margaret May, Tina Haux and Vikki McCall (eds) The Student’s Companion to Social Policy 6th edition, London, Wiley-Blackwell, ISBN: 978-1-119-74487-0 https://www.wiley.com/en-gb/The+Student%27s+Companion+to+Social+Policy,+6th+Edition-p-9781119744870

 

 

 

 

 

 

Delwedd gan marian o Pixabay


					
				

Rhannu