Newyddion

Mae’r dull trafnidiaeth yn dylanwadu ar gyfleoedd hamdden

Cyhoeddwyd papur newydd yn WISERD gan Andrew Price, Mitchel Langford a Gary Higgs ym Mhrifysgol De Cymru yn ddiweddar yn y cyfnodolyn, Case Studies on Transport Policy. Gan ddefnyddio data cyfleusterau chwaraeon gan Chwaraeon Cymru a data ffynhonnell agored ar leoedd gwyrdd, mae’r tîm yn ymchwilio i’r amrywiadau o ran y gallu i fwynhau cyfleoedd…

Senarios IMAJINE yn cael eu cyflwyno yng Nghynhadledd Polisi Cydlyniant yr UE

Yn nhrydedd Gynhadledd Polisi Cydlyniant yr UE yn Zagreb ym mis Tachwedd, cyflwynodd yr Athro Michael Woods ganfyddiadau prosiect IMAJINE Horizon 2020, sy’n cael ei arwain gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) a WISERD. A hithau wedi’i threfnu ar y cyd gan Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Polisi Rhanbarthol a Threfol y Comisiwn Ewropeaidd, y Gymdeithas Astudiaethau…

Gwrthbwyso dyfodiad y robotiaid: archwilio’r rhagolygon ar gyfer dynion ifanc ar y cyrion mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol

Dyfodol gwaith Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae penawdau yn y cyfryngau fel: ‘Mae’r robotiaid yn dod i wneud eich swydd chi: a hynny’n gynt nag yr ydych yn meddwl‘ wedi dod yn fwyfwy amlwg. Mae straeon o’r fath yn y cyfryngau yn deillio o ymchwil ar ddyfodol gwaith ac effaith technolegau newydd ac awtomeiddio,…

Adroddiad newydd WISERD ar Fargen Twf Gogledd Cymru

Fel rhan o raglen ymchwil Canolfan Cymdeithas Sifil a ariennir gan ESRC WISERD, mae tîm o ymchwilwyr WISERD wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar y broses o ddatblygu a gweithredu Bargen Twf Gogledd Cymru (NWGD), yn seiliedig ar arsylwadau o gyfres o gyfweliadau gyda rhanddeiliaid rhwng mis Gorffennaf i fis Rhagfyr 2021. Cynhaliwyd pymtheg cyfweliad o…

Cynhadledd Lansio Cynghrair Economi Sylfaenol Cymru

Gyda dros 40 o gynrychiolwyr a rhagor o gyflwynwyr a chynrychiolwyr yn ymuno ar-lein, lansiodd y gynhadledd hybrid brosiect y Cynghrair Sylfaenol o adeiladu cynghreiriau ar gyfer newid ac adnewyddu sylfaenol yng Nghymru. Tynnodd cyfuniad o gyflwyniadau a phynciau trafod mewn gweithdai sylw at amcanion sylfaenol a ffyrdd o weithio sy’n gallu cynnal y gallu…

Papur newydd ar ffoaduriaid, hil a chyfyngiadau cosmopolitaniaeth wledig yng Nghymru ac Iwerddon

Mae Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, yr Athro Michael Woods, wedi cyhoeddi papur mynediad agored yn y Journal of Rural Studies sy’n edrych ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ymgartrefu mewn tair tref fechan yng Nghymru ac Iwerddon, yn cynnwys Aberystwyth a’r Drenewydd. Mae’r papur yn adeiladu ar erthygl gynharach a oedd yn cyflwyno’r syniad o gosmopolitaniaeth wledig…

YDG Cymru yn datgelu rhaglen waith yn Senedd Cymru

Heddiw (dydd Iau 1 Rhagfyr) mae YDG Cymru wedi datgelu eu Rhaglen Waith Arfaethedig a fydd yn helpu i daflu goleuni ar y materion allweddol y mae Cymru a’r DU yn eu hwynebu. Mae Rhaglen Waith Arfaethedig YDG Cymru 2022-2026 yn amlinellu’r deg maes thematig y bydd tîm YDG Cymru yn canolbwyntio eu hymchwil arnynt…

Papur newydd yn amlygu effaith trawsnewid diwydiannol mewn ardaloedd gwledig

Mae papur newydd yn y Journal of Rural Studies yn adrodd ar ymchwil o brosiect Global-Rural yr ERC a arweiniwyd gan CWPS-WISERD i archwilio trawsnewidiad diwydiannol pentref yn nwyrain Tsieina yng nghyd-destun globaleiddio. Cyd-awduron y papur yw Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, yr Athro Michael Woods, ynghyd â chyn-ôl-ddoethur CWPS-WISERD, Dr Francesa Fois (sydd bellach ym Mhrifysgol Salford),…