Newyddion

Gwaith ymchwil newydd ar sefyllfa gyfoes hawliau dynol pobl frodorol yn Nepal

Mae ein gwaith ymchwil newydd yn trin a thrafod sefyllfa gyfoes hawliau dynol pobl frodorol yn Nepal. I roi cyd-destun, mae gan Nepal oddeutu 26.5 miliwn o bobl frodorol, sy’n cynnwys o leiaf 35 y cant o gyfanswm y boblogaeth. Adivasi yw’r enw arall arnynt, ac mae rhai sefydliadau’n honni y byddai’r gyfran wirioneddol yn…

Dylai system sgorio newydd ar gyfer arolygiadau o gartrefi gofal gael eu hystyried ochr yn ochr â gwybodaeth am argaeledd lleol

Mae’r sector cartrefi gofal o dan bwysau yn dilyn pandemig COVID-19 ac effaith Brexit o ran prinder staff, yn enwedig y gweithlu nyrsio cofrestredig. Ar ben hynny, mae’r sector o dan bwysau ariannol tymor hwy ac yn wynebu pryderon parhaus ynghylch recriwtio staff, yn enwedig yn dilyn y newidiadau arfaethedig diweddaraf i’r polisi mewnfudo.  O…

Gwahaniaethu angheuol: gwaith ymchwil newydd ar sefyllfa hawliau dynol pobl ag Albinedd yn Affrica Is-Sahara

Mae fy ngwaith ymchwil newydd yn archwilio safbwyntiau cymdeithas sifil a gwladwriaethau ar statws hawliau dynol pobl ag albinedd (PWA), sef cyflwr genetig prin a nodweddir gan bigmentiad (melanin) llai neu absennol yn y gwallt, y croen a’r llygaid. Mae gan un ym mhob 20,000 o fabanod sy’n cael eu geni ledled y byd albinedd….

Ymchwil newydd ar sefyllfa gyfoes hawliau dynol pobloedd brodorol ym Mangladesh

Mae ein hymchwil newydd yn trin a thrafod sefyllfa gyfoes hawliau dynol pobloedd brodorol ym Mangladesh. Yn ddiweddar, gwnaeth y tîm ddadansoddiad corpws o gyflwyniadau cymdeithas sifil i’r Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol diweddaraf, sef digwyddiad monitro hawliau dynol a gynhelir gan y Cenhedloedd Unedig bob pum mlynedd. Er mwyn rhoi cyd-destun, amcangyfrifir bod pum miliwn o…

O waharddiad i gynhwysiant: yr angen dybryd am well cymorth mewn ysgolion

Ar 4 Mawrth, arweiniodd ymchwilwyr Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), Jemma Bridgeman a Chris Taylor, weminar ar gyfer ymarferwyr ynghylch y prosiect Bywydau wedi’u Gwahardd, ar gyfer Cyngor Caerdydd. Archwiliodd y prosiect Bywydau wedi’u Gwahardd waharddiadau o ysgolion ledled y DU a datgelodd arferion anffurfiol, heriau systemig, a staff ysgolion yn…

Dysgu o brofiadau pobl hŷn a phobl anabl yn ystod y pandemig: rhagweld dyfodol gwell o ran gofal

A finnau’n berson sy’n dioddef o salwch cronig ac â system imiwnedd gwan, ro’n i’n gwarchod fy hun am gyfnodau hir yn ystod y pandemig. Yn ystod y cyfnod hwn o absenoldeb estynedig, ro’n i’n cydymdeimlo â’r bobl hŷn a’r bobl anabl hynny oedd yn cael eu hystyried a’u hadnabod i fod yn grwpiau ar…

Archwilio cydweithredu rhyngwladol mewn ymchwil iechyd ac addysg plant

Rob French sy’n arwain thema ymchwil Addysg YDG Cymru. Yn y blog hwn, mae Rob yn disgrifio sut y bydd croestoriad data addysg ac iechyd plant yn cael ei archwilio mewn rhifyn arbennig newydd o International Journal of Population Data Science. Mae cysylltu data iechyd ac addysg plant yn ein galluogi i archwilio cyd-ddibyniaeth y ddau faes polisi…