Patrymau a rhagfynegyddion cyfranogiad ym maes gwyddoniaeth ar ôl 16 oed yng Nghymru


Sophie Bartlett presenting at Science and the Senedd

Ar 13 Mai 2025, cyflwynodd Dr Sophie Bartlett, cydymaith ymchwil YDG Cymru yn WISERD, Prifysgol Caerdydd, ymchwil addysg yn nigwyddiad ‘Gwyddoniaeth a’r Senedd’, sef ugeinfed digwyddiad blynyddol y Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn y Senedd ac Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Sophie Bartlett presenting at Science and the Senedd

Noddwyd y digwyddiad gan Ddirprwy Lywydd y Senedd, David Rees AS, ynghyd â Mark Isherwood AS, Joel James AS a Peredur Owen Griffiths AS. Y thema oedd Addysg a Gweithlu’r Dyfodol.

Wrth i ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth ddod i’r fei yn gynt, mae llythrennedd gwyddoniaeth yn dod yn fwyfwy angenrheidiol ar draws pob galwedigaeth. Er bod ymdrechion i fynd i’r afael â’r bylchau parhaus o ran recriwtio wedi ehangu i ymchwil mewn llwybrau gwyddoniaeth, mae llawer o’r hyn rydym yn ei ddeall yn deillio o ddata sy’n benodol i Loegr, ac mae llawer o’r ymchwil yn defnyddio hen ddata gweinyddol.

Amlygodd gyflwyniad Dr Bartlett bwysigrwydd data gweinyddol ar lefel y boblogaeth, yn benodol yng Nghymru, i roi gwybodaeth gyd-destunol i bwy sy’n dilyn llwybrau gwyddoniaeth ar ôl 16 oed.

Sophie Bartlett presenting at Science and the Senedd

Mae modd i ymchwilwyr ddefnyddio’r data hyn i edrych ar ffactorau ar lefel disgyblion ac ysgolion sy’n gwella ac yn rhwystro’r tebygolrwydd bod disgyblion yn dilyn llwybrau ym maes gwyddoniaeth ar ôl 16 oed, megis rôl cyfrwng iaith a gwledigrwydd. Bydd y canfyddiadau hyn yn dangos lle byddai ymyriadau’n gweithio orau i wella tegwch o ran addysg, gwella rhagolygon gyrfa, a gweithlu gwyddoniaeth y dyfodol.

Dywedodd Dr Bartlett:

Roedd yn gyfle gwych i rannu’r gwaith rydym yn ei wneud a’r ymchwil ystyrlon y mae modd ei wneud gyda data gweinyddol. Mae ymgysylltu â diwydiant, llunwyr polisïau, ymarferwyr ac ymchwilwyr yn golygu bod modd blaenoriaethu’n well pa ddata a thystiolaeth sydd eu hangen i wneud penderfyniadau ynghylch addysg gwyddoniaeth a’r gweithlu yn y dyfodol.

Cafodd ddigwyddiad Gwyddoniaeth a’r Senedd ei drefnu ar ran ac mewn cydweithrediad â Chymuned Wyddoniaeth a Pheirianneg Cymru, i feithrin cysylltiadau agos â llunwyr polisïau â rhanddeiliaid allweddol. Darllenwch ragor ynglŷn â’r digwyddiad ar wefan RSC.

Credyd delwedd: Cymdeithas Frenhinol Cemeg/Huw John Photography


Rhannu