Llyfr gan yr Athro W. John Morgan wedi’i gyhoeddi ym Mrasil


Mae llyfr yr Athro W. John Morgan ar yr athronydd ac addysgwr Iddewig enwog o Awstria, Martin Buber, Buber and Education: Dialogue as Conflict Resolution,  (gyda Alexandre Guilherme), Routledge, 2014, wedi’i gyfieithu i Bortiwgaleg a’i gyhoeddi ym Mrasil gan Wasg Prifysgol PUCR, Porto Allegre, gyda chefnogaeth Comisiwn Cenedlaethol Brasil i  UNESCO.

Roedd Martin Buber yn feddyliwr dyneiddiol crefyddol pwysig yn yr 20fed ganrif, ac mae’r llyfr yn ystyried ei athroniaeth fel cyfraniad at addysg heddwch, deialog, a datrys gwrthdaro rhwng unigolion a chymunedau.

Yn 2020, cafodd Philosophy, Dialogue and Education: Nine modern European philosophers, Routledge, 2018, llyfr arall gan yr Athro Morgan ac Alexandre Guilherme, hefyd ei gyfieithu i Bortiwgaleg a’i gyhoeddi ym Mrasil, gan Gadeirydd UNESCO dros Ieuenctid, Addysg a Chymdeithas, Prifysgol Gatholig Brasil, DF, Brasil.


Rhannu