Hacathonau Hyb PrOPEL yn helpu rheolwyr i gymryd camau i wella ansawdd swyddi


Ym mis Chwefror 2024, cynhaliodd cyd-gyfarwyddwyr WISERD, yr Athro Alan Felstead a Rhys Davies, hacathonau yn Sheffield a Belfast ar gyfer rheolwyr adnoddau dynol sydd â diddordeb mewn gwella ansawdd swyddi ar gyfer eu timau.

Event participants completing an online job quiz.

Trefnwyd y digwyddiadau gan Hyb PrOPEL ac roedd bron i 100 o reolwyr o amrywiaeth o fusnesau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn bresennol, gan gynnwys adrannau’r llywodraeth, darparwyr gofal cymdeithasol a datblygwyr meddalwedd. Roedd y digwyddiadau’n defnyddio canlyniadau arolygon a chwisiau i annog y cyfranogwyr i bwyso a mesur sut gallent wella ansawdd swyddi ar gyfer y rheini maent yn eu rheoli.

I ddechrau’r hacathonau ac i osod y cyd-destun ar gyfer y cyfranogwyr wrth iddynt gyrraedd y sesiynau hyn, fe’u rhannwyd yn grwpiau bach i ystyried gwahanol heriau Adnoddau Dynol, fel rheoli perfformiad yn well, rheoli gwrthdaro yn y gweithle a gwella lles gweithwyr.

Gyda chymorth cwis ar-lein ar ansawdd swyddi, howgoodismyjob.com, a grëwyd gan Alan Felstead, gofynnwyd i’r cyfranogwyr asesu ansawdd eu swyddi eu hunain a swyddi eu haelodau staff. Ystyriwyd pa nodweddion gwaith y mae gweithwyr yn debygol o fod eu heisiau o’u cyflogaeth, fel cyflog da, llwyth gwaith hawdd, oriau gwaith cyfleus a sicrwydd swydd. Yna, cafodd y nodweddion hyn eu rhestru o’r rhai mwyaf i’r lleiaf pwysig ym marn y cyfranogwyr. Yn dilyn hyn, trafodwyd yr hyn yr oedden nhw, fel rheolwyr, yn teimlo y gallent ei wneud i ddiwallu’r anghenion hyn yn well a gwella ansawdd swyddi.

Event participants rank features of work on a whiteboard.

Ar ddiwedd y sesiwn, cymharwyd y canlyniadau a’r sgoriau a roddwyd gan y cyfranogwyr â thystiolaeth genedlaethol yn seiliedig ar ddata cwis a gasglwyd yn flaenorol gan dros 100,000 o unigolion. Gan ddefnyddio canfyddiadau erthygl mewn cyfnodolyn sy’n seiliedig ar y data hwn, anogwyd y cyfranogwyr i fanteisio ar syniadau ymarferol am sut gallent wella ansawdd swyddi ar gyfer y rheini yn eu timau.

Roedd y syniadau’n cynnwys cyflwyno cydweithwyr i’r cwis ar-lein a’u hannog i roi adborth am yr hyn maen nhw’n ei hoffi a ddim yn ei hoffi am eu swyddi. Yn ystod y digwyddiadau, meddyliodd y cyfranogwyr am ffyrdd eraill o ddefnyddio’r cwis ac adnoddau eraill. Roedd y rhain yn cynnwys: mabwysiadu’r cwestiynau a ddefnyddiwyd yn y cwis ar gyfer eu harolygon o agwedd eu gweithwyr eu hunain, casglu adborth dienw am ansawdd swyddi, a threfnu hacathonau mewnol i hwyluso trafodaeth agored am ansawdd swyddi a ffyrdd o’i wella.


Rhannu