Gallai’r ymateb i Covid-19 yng Nghymru fod wedi helpu i gyfyngu heintiau ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd


Mae ymchwilwyr yn gysylltiedig â WISERD yn gweithio yng Nghanolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru wedi bod yn edrych ar gyfraddau heintio coronafeirws ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru. Roedd yr ymchwil yn ymateb i bryderon ers dechrau pandemig Covid-19 o gyfraddau uchel posibl o heintiau, arosiadau ysbyty a marwolaeth ymhlith poblogaethau digartref.

Gall profi digartrefedd olygu gorfod rhannu lle mewn llety dros dro neu anaddas. Mewn rhai achosion, efallai fod diffyg cyfleusterau hylendid hefyd. Felly mae’n bosibl fod pobl sy’n profi digartrefedd wedi wynebu anawsterau o ran pellter cymdeithasol, ynysu pan fyddant yn sâl, a chynnal hylendid dwylo. Hefyd canfuwyd fod gan bobl sy’n profi digartrefedd fwy o gyflyrau iechyd, gan gynyddu’r tebygolrwydd o gymhlethdodau’n gysylltiedig â Covid-19 a marwolaeth ymhlith y grwp hwn.

Daw tystiolaeth am gyfraddau heintio coronafeirws ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yn bennaf o UDA ac mae’n canolbwyntio bron yn llwyr ar bobl sy’n defnyddio llochesi i’r digartref. Fel y canfuwyd gyda chlefydau heintus eraill, mae’r amodau y mae pobl yn eu hwynebu mewn llochesi, megis gorlenwi a gorfod rhannu aer, yn peri risg arbennig o uchel o drosglwyddo. Felly, mae amcangyfrifon o gyfraddau heintio coronafeirws ar gyfer pobl sy’n defnyddio llochesi wedi bod yn amrywiol iawn, yn dibynnu i raddau helaeth ar y lefel o achosion Covid-19 yn lleol — mae synthesis tystiolaeth wedi canfod lefelau uchel o 32% pan gafwyd achosion lleol, i isafbwyntiau o 2% heb achosion lleol.

Fodd bynnag, ar ddechrau’r pandemig, cyflwynwyd polisïau penodol yng Nghymru i leihau’r defnydd o lochesi a mathau eraill o lety gyda mannau lle’r oedd rhaid rhannu aer.


Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £50m gan fandadu symudiad i ffwrdd o ddatrysiadau llety cymunedol i bobl oedd yn profi digartrefedd, a ffafrio llety hunangynhwysol yn lle hynny.


Mae hyn yn cymharu â’r Unol Daleithiau a chenhedloedd eraill lle’r oedd llochesi cymunedol yn parhau i weithredu, gydag ymdrechion yn cael eu gwneud i leihau’r cyswllt rhwng y bobl oedd yn eu defnyddio. Roedd y gwahaniaeth o ran polisïau’n golygu nad oedd modd trosglwyddo’r dystiolaeth bresennol am gyfraddau heintio ymhlith pobl sy’n profi digartrefedd yn uniongyrchol i gyddestun Cymru.

Wrth gynnal yr astudiaeth, defnyddiwyd data gan ddarparwyr gofal iechyd a gwasanaethau defnyddio sylweddau i ganfod pobl oedd yn profi digartrefedd yn y boblogaeth yng Nghymru. Yna defnyddiwyd data heintio coronafeirws o brofion PCR a gwaed i gyfrifo cyfraddau’r bobl oedd yn profi digartrefedd, pobl nad oeddent yn ddigartref a phobl nad oeddent yn ddigartref ond oedd â nodweddion tebyg i bobl oedd wedi profi digartrefedd.

Er gwaethaf ofnau o gyfraddau uchel ymhlith pobl oedd yn profi digartrefedd yng Nghymru, canfyddiad annisgwyl yr astudiaeth, flwyddyn i mewn i’r pandemig, oedd bod cyfraddau’n is na phobl ‘nad oedd yn ddigartref’ yn y boblogaeth gyffredinol o ddemograffeg debyg – 5.0% o’i gymharu â 6.9. Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gallai newidiadau i’r polisi digartrefedd yn ystod y pandemig, a gweithredu dilynol gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol a chyrff trydydd sector, fod wedi cael effaith gadarnhaol ar gyfraddau heintio pobl oedd yn profi digartrefedd ar y pryd.

Mae pandemig Covid-19 wedi dangos yn glir y problemau iechyd cyhoeddus sy’n codi pan fydd pobl yn cael eu cartrefu mewn mathau amhriodol o lety dros dro. Mae hyn yn ymuno â chorff mawr o dystiolaeth sy’n awgrymu bod defnyddio llochesi cymunedol yn achosi mwy o niwed nag o les. Mae rhoi’r gorau’n raddol i ddefnyddio llety cymunedol problemus ar gyfer pobl sy’n profi digartrefedd yn rhywbeth y dylai pob gwlad symud tuag ato. Mae’n briodol felly fod polisi digartrefedd Llywodraeth Cymru yn y rhaglen adfer ‘ôl bandemig’ yn awgrymu diwedd ar y defnydd o lochesi nos.

 

Llun: Naeblys o iStock


Rhannu