Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn cynnal cynhadledd ar y cyd â Rhwydwaith Ymchwil Astudiaethau’r Sector Gwirfoddol


VSSN event

Yn ystod mis Tachwedd, cynhaliodd WISERD gynhadledd ar y cyd â Rhwydwaith Ymchwil Astudiaethau’r Sector Gwirfoddol, o dan y teitl ‘Cymdeithas sifil ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig: heriau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol.’ Roedd y diwrnod yn cynnwys ystod eang o bapurau gan academyddion a sefydliadau’r trydydd sector.

Cyflwynwyd canfyddiadau ymchwil am gymdeithas sifil a’r wladwriaeth ar draws cyfnodau a thiriogaethau yn y sesiwn gyntaf. Cafwyd cyflwyniad gan Irene Hardill (Prifysgol Northumbria) a Rob Macmillan (Prifysgol Sheffield Hallam) o’r enw ‘Ffiniau symudol: gweithredu gwirfoddol a lles cymdeithasol’ ac oedd yn archwilio ac yn cymharu disgyrsiau trechol o’r 1940au a 2010au ar y cysylltiadau newidiol rhwng y wladwriaeth a chymdeithas sifil.

Cyflwynodd Hannah Ormston o Ymddiriedolaeth Carnegie UK yr adroddiad diweddar, ‘Carnegie UK Trust: The Enabling State’. Cymharodd yr adroddiad ddulliau o fynd ati i lunio polisi cyhoeddus yng ngwledydd y DU, a chanfod bod deddfwrfeydd datganoledig yn cynnwys proses gymhleth o ddysgu a lledaenu, ond roeddent hefyd yn caniatáu datblygiadau mwy ffafriol ar y cyfan yng Nghymru ac yn yr Alban o ran cymdeithas sifil na’r rhai hynny yn Lloegr.

Roedd cyflwyniadau eraill yn cynnwys dadansoddiad o lywodraethu newidiol ac ymwneud â’r sector gwirfoddol yng Nghymru (Amy Saunders, WISERD, Prifysgol Caerdydd) ac yn yr Alban (Jane Cullingworth, Prifysgol Glasgow), gan dynnu sylw at y cyfaddawdau cymhleth y mae’n rhaid i nifer o sefydliadau gwirfoddol eu cyd-drafod wrth iddynt geisio dylanwadu ar lywodraeth.

Rhannwyd mewnwelediadau cyfoethog yn y drafodaeth banel, ‘Gweithredu cymunedol mewn mannau lleol –  meithrin arweinyddiaeth ac arwain newid.’ Tynnodd James Rees (Prifysgol Wolverhampton) sylw at bwysigrwydd rhwydweithiau perthynol mewn cymdeithas sifil wrth gynhyrchu arweinwyr lleoedd. Cyfeiriodd Dr Sarah Lloyd-Jones at y thema hon, a amlinellodd y prosiect a ariennir gan Sefydliad Rank, ‘y bartneriaeth Llechi, Glo a Chefn Gwlad’ a fydd yn gweithio gyda naw sefydliad cymunedol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu arweinwyr lleol. Yn olaf, yn y panel hwn, rhoddodd Sue Denman (Gofal Solva ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Solva) a Jessie Buchanan (Grŵp Ymgyrch Trecadwgan) dystiolaeth gref am sut gall perchenogaeth gymunedol a darparu gofal cymdeithasol dyfu trwy weithredu cymunedol lleol.

Canolbwyntiodd y panel cyntaf yn y prynhawn ar ‘wleidyddoli/dad-wleidyddol a/neu ail-wleidyddoli gweithredu gwirfoddol gan blant a phobl ifanc’ ac ystyried sut mae’r grŵp hwn yn ymwneud â gweithredu gwirfoddol. Gwnaeth cyfraniadau gan Alison Body (Prifysgol Caint), Esther Muddiman (WISERD, Prifysgol Caerdydd) ac Emily Lau (Prifysgol Canterbury) dynnu sylw at bwysigrwydd sut rydym yn cynnwys plant a phobl ifanc, ac effaith ddilynol hyn ar weithredu sifil parhaus. Dangosodd data empirig cyfoethog rôl ysgolion a theuluoedd, wrth hwyluso a llywio gwerthoedd a chamau gweithredu gan bobl ifanc.

Myfyriodd y panel olaf ar ddysgu o ymarfer, gyda chyfraniadau at ‘effaith mentrau’r llywodraeth ar sefydliadau’r sector gwirfoddol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban i roi diwedd ar gysgu ar y strydoedd’ (Mike Hemmings, Prifysgol St John, Efrog); ‘Tensiynau sy’n deillio o gyfeillio gwirfoddolwyr mewn canolfan gadw mewnfudo ym Mhrydain’ (Joanne Vincett, Prifysgol Agored); a ‘Gefeillio Trefi Cymru: Dyfodol i gymdeithas sifil ar draws ffiniau, neu ddiwedd y cysylltiad?’ (Bryonny Goodwin-Hawkins, Prifysgol Aberystwyth). Disgrifiodd Joanne Vincett y tensiynau a gyd-drafodwyd gan y gwirfoddolwyr a astudiodd, fel ‘eirioli’n dawel.’ Mae’r term hwn yn hoelio thema allweddol a gododd o’r diwrnod, gan dynnu sylw at sut mae sefydliadau gwirfoddol yn cael eu herio’n barhaus i ddod o hyd i ffyrdd i ddatblygu eu gweithredoedd wrth gynnal perthnasoedd gwaith â sefydliadau llywodraethu.


Rhannu