Trefi Cymru’n derbyn hwb i gynllunio ar lawr gwlad


Understanding Welsh Places launch event

Bydd pobl sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli mewn trefi a chymunedau ar draws Cymru’n elwa ar adnodd newydd i’w helpu i ddod o hyd i gyfleoedd yn eu hardaloedd. 

Mae Deall Lleoedd Cymru yn wefan ddwyieithog a grëwyd gan dîm o ymchwilwyr yn WISERD ac a gydlynir gan Sefydliad Materion Cymru. Mae’n cyflwyno gwybodaeth am economi, demograffig a gwasanaethau lleol mwy na 300 o leoedd yng Nghymru mewn fformat cyflym a hawdd. Mae prosesu a dadansoddi data ychwanegol wedi’u darparu gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol.

Gwefan ddwyieithog newydd sy’n cael ei gydlynu gan y Sefydliad Materion Cymreig yw Deall Lleoedd Cymru, sy’n darparu gwybodaeth am economi, cyfansoddiad demograffig a gwasanaethau lleol mwy na 300 o leoedd yng Nghymru a hynny ar ffurf hylaw a hawdd.

Bydd yr ystadegau’n darparu gwybodaeth am ystod eang o bynciau gan gynnwys nifer y lleoedd ysgol, siopau ac elusennau yn yr ardal, cyflogaeth, pellteroedd teithio, hunaniaeth genedlaethol a niferoedd siaradwyr Cymraeg.

Bydd hyn nid yn unig yn caniatáu i bobl â diddordeb yn eu tref ddysgu mwy am eu hardal, ond bydd y wefan hefyd yn helpu cynghorau tref, grwpiau cymunedol, elusennau a llunwyr polisi i greu gwasanaethau sy’n gweddu i gymunedau unigol ar draws Cymru.

Er bod gwefannau data eraill yn cyflwyno gwybodaeth ar lefel awdurdod lleol, mae Deall Lleoedd Cymru’n caniatáu i bobl ddadansoddi ystadegau am bob lle yng Nghymru lle mae mwy na 2,000 o drigolion.

Yn ogystal ag archwilio data am leoedd unigol, gall pobl gymharu trefi a dysgu am berthynas eu lle â chymunedau cyfagos ac eraill ar draws Cymru. Y nod yw annog pobl i greu perthnasau ar draws ffiniau cymunedol, rhannu syniadau a deall yn well y perthnasau sy’n bodoli yn holl drefi eu hardal.

Dywedodd Shane Wetton, Swyddog Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, “Mae hi’n gallu bod yn anodd iawn darganfod ystadegau am drefi felly bydd wefan Deall Lleoedd Cymru yn gwneud gwahaniaeth mawr i’m gwaith. Mae’r gwybodaeth wedi’u gyflwyno mewn ffordd clir ac mae’n ddefnyddiol iawn gallu ymchwilio perthnasau rhwng llefydd gwahanol.

Mae’r wybodaeth demograffeg yn hynod o ddiddorol, yn enwedig y data ar nifer y llefydd ysgol a’r nifer o ddoctoriaid lleol i bob person. Rydw i’n edrych mlaen i mwy o wobodaeth i gael ei ychwanegu drwy gydol y flwyddyn.”

Mae Deall Lleoedd Cymru, sy’n cael ei hariannu gan Ymddiriedolaeth Carnegie UK Trust a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys cofnodion unigol ar gyfer pob lle yng Nghymru lle mae mwy na 1,000 o drigolion a’r gallu i gymharu lleoedd gyda mwy na 2,000 o drigolion.

 

Sam Jones demonstrating at Understanding Welsh Places launch event

 

Scott Orford, Cydlynydd Data Ymchwil ac Athro systemau gwybodaeth ddaearyddol a daearyddiaeth ddynol feintiol ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n arwain y tîm WISERD. Dywedodd Scott: “Mae gwefan Deall Lleoedd Cymru yn ategu ein Porth Data WISERD ac yn cysylltu â’n rhaglenni gwaith sy’n ymwneud â Deall Ardaloedd, Cymdeithas Sifil, a Data a Dulliau. Bydd y wefan yn adnodd pwysig i WISERD ac ymchwilwyr eraill sydd angen ystadegau cymharol allweddol am leoedd yng Nghymru.”

Yn lansiad y wefan ym Mae Caerdydd ddoe (dydd Mawrth 8fed Hydref), dywedodd Hannah Blythyn AC, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: “Mi oeddwn i’n falch o fynychu’r digwyddiad heddiw i weld y wefan newydd nodedig yma. Mae’r casgliad o ddata ar fwy na 300 o lefydd, a’i arddangos mewn fformat hawdd i’w ddefnyddio, yn wych. Yn rhy aml, mae data ac ystadegau yn rhwystr i ddysgu, felly mae’n chwa o awyr iach i weld teclyn mor rhyngweithiol.

“Mae cefnogi canol trefi yn gonglfaen o’n gwaith ail-adnewyddu. Mae gan ein trefi hanes ysbrydoledig a’i straeon eu hunain i’w hadrodd.

“Er ei bod hi’n bwysig i ni ddathlu’r gorffennol, mae rhaid i ni ei beidio byw ynddi, gennym ni fydd ‘nostalgia’ yn newid pethau. Rydym eisiau ein trefi i gal dyfodol gwych. Mae pwrpas terfi yn newid ac mae rhaid i ni eu cefnogi wrth iddynt ail-greu eu hunain ar gyfer y 21ain ganrif.

“Rydym eisiau mwy o bobl i fod yn ‘mynd i’r dref’. Rydym eisiau creu profiadau i wneud terfi yn rhywle lle mae pobl yn dymuno bod, felly mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi canol ein trefi i fod yn fwy cynaliadwy ac amrywiol.

“Mae gwrando ar bobl yma heddiw wedi cryfhau fy nghred bod y datrysiad yn golygu cefnogi’r ymdrechion yma i esblygu. Rydym eisiau gweithio gyda phobl sydd yn angerddol yn ein cymunedau i newid pethau.

Dywedodd Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, “Yn rhy aml, mae cymunedau mewn trefi’n cael eu diystyru gan bolisi cyhoeddus ac mae hyn yn aml oherwydd diffyg data ar y lefel honno. Bydd Deall Lleoedd Cymru’n galluogi pobl sy’n byw yn y cymunedau hyn i ddeall eu hardal yn well a sicrhau bod gan gynllunwyr lleol, actifyddion, busnesau ac elusennau yr wybodaeth gywir. Rydym yn ychwanegu hyd yn oed fwy i’r wefan dros y flwyddyn nesaf, megis data amgylcheddol ychwanegol a gwybodaeth am weithgarwch diwylliannol lleol, ac rydym yn gyffrous i weld y gwahaniaeth cadarnhaol y bydd hyn yn ei wneud i gymunedau ar draws Cymru.”

Gellir cyrchu’r wefan newydd yn www.dealllleoeddcymru.cymru ac mae fersiwn Saesneg ar gael yn www.understandingwelshplaces.wales.


Share