Cyflwynwyd ymchwil Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn y Senedd


Welsh Parliament writing on side of the building

Ar 30 Tachwedd, cyflwynodd yr Athro Mitch Langford, cyd-gyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), ymchwil WISERD o’r prosiect a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), ‘Anghydraddoldebau, colled ddinesig a lles’, i’r pwyllgor newid hinsawdd, amgylchedd a seilwaith yn y Senedd.

Roedd digwyddiad Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil (ARI) y Senedd yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau cyflym a wnaed i Aelodau’r Senedd, eu staff cymorth, grwpiau trawsbleidiol perthnasol ac ymchwilwyr y Senedd.

Amlinellodd yr Athro Langford ymchwil ddiweddaraf tîm Prifysgol De Cymru ynghylch hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau allweddol eraill yn ymwneud ag iechyd, addysg, diwylliant a lles.

Y Maes o Ddiddordeb Ymchwil y mae’r prosiect hwn yn cysylltu ag ef yw ‘Teithio llesol a newid dulliau teithio’. Mae’r ymchwil wedi cynnwys datblygu dulliau arloesol i archwilio patrymau daearyddol o allgáu i wasanaethau ar raddfeydd gofodol manwl, gan ddefnyddio amserlenni trafnidiaeth ddigidol a lleoliad arosfannau bysiau i gynnig darlun lawn o fynediad i’r rhai sy’n dibynnu fwyaf ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd yr Athro Mitch Langford: “Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle pwysig i gyflwyno ein dull o archwilio newidiadau gofodol ac amserol yn y ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus i aelodau’r Senedd a grwpiau rhanddeiliaid ehangach.

“Mae’r rhain yn darparu metrigau cadarn a yrrir gan ddata i feintioli a meincnodi mynediad at wasanaethau gan gynnwys trafnidiaeth, i fonitro newidiadau dros amser, ac i ddarparu gwerthusiadau wedi’u llywio gan dystiolaeth o effeithiolrwydd polisïau presennol a pholisïau’r dyfodol. Mae technegau o’r fath a’r potensial i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd nod y polisi o wneud 45 y cant o’r holl deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol erbyn 2040”.

Bydd y digwyddiad yn helpu’r Pwyllgor i benderfynu ar ei flaenoriaethau ar gyfer gweddill y Senedd, ochr yn ochr â chanlyniadau’r ymgynghoriad ar flaenoriaethau a gynhaliwyd ganddo dros yr haf.

Gallwch ddarganfod rhagor am y prosiect ymchwil hwn yn ein cyfweliad â’r Athro Gary Higgs, ymchwilydd arall ar y tîm.


Llun gan Jonny Gios ar Unsplash.


Rhannu