WISERD yn croesawu ysgolhaig gwadd rhyngwladol, yr Athro Charles Sabel


Yn gynnar ym mis Tachwedd 2022, roeddem yn falch iawn o groesawu’r Athro Charles Sabel o Ysgol y Gyfraith Columbia fel ysgolhaig gwadd rhyngwladol WISERD. Ymunodd yr Athro Sabel â ni yn sparcIspark am wythnos o ddigwyddiadau a thrafodaethau am ei waith ar lywodraethu arbrofol.

Professor Charles Sabel presenting to a room full of workshop participants

Dechreuodd yr ymweliad gyda gweithdy dwys a oedd yn ymdrin â “Pholisi Diwydiannol ar gyfer y Newid yn yr Hinsawdd a Gwasanaethau Pwrpasol mewn Lles Cymdeithasol – Dau argyfwng dysgu dan ansicrwydd a chynnydd math newydd o sefydliad”. Rhoddodd yr Athro Sabel drosolwg o sail ddamcaniaethol llywodraethu arbrofol cyn amlinellu sut i’w gymhwyso a’i berthnasedd i ddau faes polisi allweddol: newid yn yr hinsawdd a gwasanaethau lles.

Gan ddefnyddio astudiaethau achos o wahanol wledydd, esboniodd mewn ffordd fywiog y berthynas rhwng arloesedd arbrofol yn y ffin a ffurfiau lleol o arbrofol ar sail lleoedd.  Denodd y gweithdy amrywiaeth eang o bobl o’r sectorau Prifysgol a pholisi a gymerodd ran mewn trafodaeth fywiog ac egnïol am y materion a godwyd a’u perthnasedd i ddatblygiadau mewn lleoliadau datganoledig ac ar draws gwahanol sectorau polisi economaidd a chymdeithasol.

Close-up of Professor Charles Sabel giving talk in front of WISERD banner

Yn dilyn hyn, traddododd yr Athro Sabel ddarlith gyhoeddus yn awditoriwm SparcIspark am ei lyfr newydd gyda David Victor o’r enw ‘Fixing the Climate: Strategies for an Uncertain World’.  Wrth siarad â chynulleidfa fawr o ystod eang o sefydliadau academaidd, polisi, a thrydydd sector, bu’n gwrthgyferbynnu llwyddiannau a methiannau yn yr arena polisi hinsawdd i ddatblygu dadl y dylai’r trawsnewidiadau radical sydd eu hangen i fynd i’r afael â sero net fod yn seiliedig ar sefydliad arbrofol a thrafod arbrofol. Yn wyneb ansicrwydd, mae manteision y fath ddull i’w cael yn (i) adolygiad gan gymheiriaid sy’n lleihau strwythurau hierarchaidd, (ii) symudiad ymhlith arbenigwyr tuag at alluogi trafod, (iii) dolenni adborth rhinweddol sy’n arwain at ddiwygio pellach a (iv) gweithwyr rheng flaen sy’n arwain ac yn ysgogi newid.

 

Professor Charles Sabel addressing audience in spark auditorium

 

Gan dynnu ar enghreifftiau o lwyddiant a methiant o Brotocol Montreal i Gytundeb Paris, cyflwynodd achos dros bosibiliadau sefydliadau sy’n datblygu  lle mae heriau lefel y ddaear yn pennu penderfyniadau cywir a wneir ar lefelau uwch sydd, yn eu tro, yn dylanwadu ar amodau ar lawr gwlad., Yn yr ystyr hon, nid ydynt o’r brig i lawr nac o’r gwaelod i fyny. Ond yn wahanol i atebion sy’n cael eu harwain gan y farchnad neo-ryddfrydol, caiff y broses benderfynu ddatganoledig hon ei llywio gan brosesau trafod.

Audience member asking question at Charles Sabel talk

Gan ehangu ar y thema hon, a thynnu ar bragmatiaeth John Dewey, dadleuodd fod arbrofoliaeth yn seiliedig ar gyfnewid rhesymau a all newid argyhoeddiadau a dewisiadau trwy drafod cyfathrebol. Felly mae angen cysylltu datblygiadau arloesol technegol ar y ffin (er enghraifft, ceir trydan) ag arloesi ar waith (er enghraifft, integreiddio ynni adnewyddadwy i’r grid) gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i effeithiau newid ar gymunedau lleol. Cafwyd trafodaeth fywiog ymhlith y gynulleidfa ynghylch materion fel potensial COP27 i fod yn sbardun dros newid, cymhwyso syniadau Dewey i feysydd polisi eraill, gallu gwledydd bach i chwarae rhan mewn newid, ac i ba raddau yr oedd optimistiaeth yn bosibl o dan yr amgylchiadau presennol.

Professor Charles Sabel giving talk from audience perspective

Yn olaf, cyfarfu’r Athro Sabel, ynghyd â’r Athro Kevin Morgan a’r Athro Ian Rees Jones, ag aelodau o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.  Cylch gwaith y comisiwn yw “ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig…ac ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru”.  Cafodd ei groesawu gan y cyd-gadeiryddion, Yr Athro Laura McAllister a’r Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Dr Rowan Williams, a arweiniodd drafodaeth a oedd yn canolbwyntio ar waith yr Athro Sabel am Lywodraethu Gostyngedig. Gan dynnu ar ei waith am ddiwygiadau addysgol yn y Ffindir, roedd y drafodaeth yn amrywio o ddiwygio etholiadol i newid polisi mewn gwahanol sectorau a’r potensial i Gymru adeiladu ffurf fwy agored ac ymgynghorol ar lywodraethu ar sail rhai o’r syniadau ac enghreifftiau ymarferol a roddodd.

Bu’r ymweliad yn gryn lwyddiant a sbardunodd nifer o drafodaethau diddorol ac ysgogol ymhlith cydweithwyr WISERD a sparcIspark. Y gobaith yw y bydd y cysylltiad parhaus â’r Athro Sabel a’i raglen ymchwil yn arwain at gydweithio cynhyrchiol yn y dyfodol yn ysbryd llywodraethu arbrofol.


Rhannu