Trosolwg
O ystyried newidiadau cymdeithasol a pholisïau diweddar, mae’r DU yn wynebu angen cynyddol i wybod sut mae’r byd gwaith wedi newid. Nod cyffredinol yr Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024 (SES2024) yw casglu data arolwg cadarn ar sgiliau a phrofiadau cyflogaeth pobl 20-65 oed sy’n gweithio yn y DU yn 2024. Bydd SES2024 yn ychwanegiad gwerthfawr ac unigryw i seilwaith adnoddau data’r gwyddorau cymdeithasol.
Mewn dull arloesol ar gyfer y gyfres, casglwyd data 2024 mewn dwy ffordd: cynhaliwyd ychydig dros 2,800 o gyfweliadau wyneb yn wyneb (F2F), tra cynhaliwyd 2,650 o gyfweliadau ychwanegol ar-lein. Bydd data F2F a gasglwyd yn debyg i’r rhai a gasglwyd o arolygon cynharach, gan alluogi ymchwilwyr i fesur sut mae’r farchnad lafur wedi newid ers 2017. Mae hyn yn cynnwys yr effaith y mae newidiadau diweddar – megis COVID-19, Brexit ac argyfwng costau byw – a thueddiadau hirdymor – megis digideiddio cynyddol, twf cynhyrchiant isel a llonydd, a phoblogaeth sy’n heneiddio – yn ei chael ar fywydau gwaith pobl sy’n byw ym Mhrydain.