Mae’r rhwydwaith hwn ar gyfer academyddion sydd wrthi’n gwneud ymchwil ryngddisgyblaethol a/neu amlddisgyblaethol i les ac yn ei hyrwyddo ar draws meysydd polisi ac mewn cyd-destunau statudol ac anstatudol sy’n seiliedig ar ymarfer. Mae’r rhwydwaith yn ceisio hyrwyddo ymchwil i les, a hynny mewn gwahanol ddisgyblaethau sy’n cynnwys athroniaeth gymdeithasol a gwleidyddol, polisi cymdeithasol, cymdeithaseg, economeg, daearyddiaeth gymdeithasol, gwyddoniaeth wleidyddol, seicoleg ac iechyd.
Mae hefyd ar gyfer ymgysylltu â llunwyr polisïau, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau, ar sail egwyddorion cyd-gynhyrchiol, sy’n cynnwys ‘lleisiau’ anacademaidd yn y broses ymchwil yn systematig. Yn dilyn hynny, bydd y rhwydwaith hefyd yn adlewyrchu agendâu, gwybodaeth a phrofiad rhanddeiliaid anacademaidd allweddol ac yn gweithio ochr yn ochr ag academyddion i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu ymyriadau ar sail polisïau ac ymarfer sy’n cael effaith gadarnhaol.
Mae’n debygol y bydd digwyddiadau a gweithgareddau yn y dyfodol yn cynnwys paneli neu weithdai sy’n hyrwyddo ymchwil ryngddisgyblaethol a/neu amlddisgyblaethol i les, lledaenu a rhannu gwybodaeth am ymchwil a gweithgareddau eraill aelodau’r rhwydwaith a hyrwyddo digwyddiadau sy’n rhoi academyddion mewn cysylltiad â llunwyr polisïau, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau, ar sail egwyddorion cyd-gynhyrchiol.
Lansiwyd y rhwydwaith hwn yn y digwyddiad ‘Lles a Chyfranogiad Cymdeithasol: Addysg, Ymgysylltu Diwylliannol ac Iechyd’ yn rhan o Gyfres Haf WISERD 2021. Cafodd ei arwain gan academyddion o Brifysgol De Cymru o wahanol ddisgyblaethau: Steve Smith, Marie Clifford, James Rendell ac Emma Wheeler.
Athro Athroniaeth Wleidyddol a Pholisi Cymdeithasol o Brifysgol De Cymru yw Steve Smith, sy’n arwain y rhwydwaith. Mae’n recriwtio i greu tîm arwain i hyrwyddo a datblygu’r rhwydwaith. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at y rhwydwaith, ebostiwch steve.smith@southwales.ac.uk i gysylltu ag ef.
Dîm Arwain
- Daniel Cunliffe: Athro Cyswllt, Prifysgol De Cymru, daniel.cunliffe@southwales.ac.uk
- Barrie Llewelyn: Uwch Ddarlithydd, Prifysgol De Cymru, barrie.llewelyn@southwales.ac.uk
- Martin Steggall: Athro, a Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil a Phrofiad Myfyrwyr, Prifysgol De Cymru, martin.steggall@southwales.ac.uk
- Emily Underwood-Lee: Athro Cyswllt, Prifysgol De Cymru, emily.underwood-lee@southwales.ac.uk
- Sofia Vougioukalou: Cymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd, vougioukalous@cardiff.ac.uk
- Alice Vernon: Darlithydd, Prifysgol Aberystwyth, amv@aber.ac.uk
- Emma Wheeler: Darlithydd a Ymchwilydd Doethurol, Prifysgol De Cymru, emma.wheeler@southwales.ac.uk
- Sarah White: Cyd-sylfaenydd “The Relational Wellbeing Collaborative”, sarah@rwb-collab.co